PENOD VIII.
❋
DALEN ARALL O'M DYDDIADUR.
YDD IAU YR 28AIN.—Pen yr wythnos ar y dw'r. Dacw dir Affrig eto—glane Morocco
ac Algeria. Dim ond mynydde uchel sydd i'w
gwel'd, a rheiny'n edrych yn noeth, a chas, a
thywyll. Ni weles fynydde'rioed a'r fath olwg ddiserch arnynt. Tybed nad rhein yw'r "mynyddoedd
tywyll" y sonia'r proffwyd am danynt?
Trwy'r 'spïeinddrych gwelaf ychydig bentrefi
yma a thraw, ond y maent yn rhy bell i'w gwahaniaethu'n glir. Arabied yw'r boblogeth,
a lladronllyd yw eu cymeriade. Mae'r pentrefi
hyn yn hen nythleoedd môr-ladron o'r rhywogeth
waetha'. D'wedodd y cadben bethe rhyfedd
wrthyf am danynt. Maent wrth eu hanfadweth
heddyw pan gânt gyfle. Anfonodd Swltan
Morocco rybudd dro'n ol i holl deyrnasoedd
Ewrob, am i'w llonge beidio caniatau i fade
lanio'n sengl ar y traethe hyn oherwydd y môrladron;
ac os bydde i rywbeth anymunol
gymeryd lle ar ol y rhybudd, na fydde fe'n
gyfrifol i neb am hyny. Ond aeth bâd allan o
long Ellmynedd ar waetha'r gwaharddiad. Yr