Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'roedd yr haul y'machlud, fe ddeue'r lleuad i fyny'r ochr arall, ac er fy syndod, yr oedd yn werdd i gyd drosti! Yr oedd yn debycach i gosyn o gaws Gorgonzola na dim arall. Gofynes i rywun pa'm yr oedd felly, a'r atebiad ge's oedd taw gwyrdd oedd prif liw'r haul wrth fachlud, a taw cyfranogi o hwnw oedd y lleuad. Cyflwynaf ef am ei werth, ond nid yw'n anhygoel. Dim tir eto nes cyredd yr Aifft.

DYDD LLUN, Y 4YDD.—Dim helynt o fath yn y byd heddyw. Darn diserch iawn o'r daith yw hwn o Malta i Alecsandria. Dim ond awyr a môr a haul—ac ä'r haul o'r golwg weithie. Dim aderyn yn y wybren—dim pysgodyn y'neidio allan o'r dw'r—dim llong ar wyneb yr eigion yn unman. Meddyliwn am gân Alecsander Selkirk:—

"I am monarch of all I survey,
My right there is none to dispute."

A gall'sai'r hen long fabwysiadu'r syniad yn llawn cystal. Yr haul yn gwresogi ar brydie, ond y gwynt o'r gogledd-ddwyren yn para i eillio o hyd, gan gymedroli'r gwres. Disgyna gwlith trwm yn gynar wedi i'r haulfyn'd lawr. Mae hyn yn nodweddiadol o'r dwyren. 'Does dim rhyfedd fod cyment o son am wlith yn y Beibl. Gwneir parotöade mawrion ar gyfer glanio, a theimlaf ychydig gyffro yn fy meddianu ine.

DYDD MAWRTH, Y 5ED.—Y tone wedi codi,