Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn peri i'r llestr siglo'n enbyd. Y gwynt yn gry' ac yn oer. Cael y môr i ni ein hunen o hyd. Ysgrifenu at deulu bychan y'Nhreorci, sydd a'i bryder yn fawr amdanaf. Ysgriblo gore' medrwn at gyfeillion hefyd. Tynu i derfyn y daith,a dïolch am hyny.

DYDD MERCHER, Y 6ED.—Dyma'r diwrnod gwaetha' gawsom oddiar pan y gadawsom y Bari. O'r anwyl! Daeth rhuthrwynt ofnadwy o'r gorllewin arnom, a gwlaw mawr yn ei gôl. Yr enw sy' gan y morwyr ar y math yma o dywydd yw squall. Mae'r tone fel mynydde, ac yn disgyn ar y dec yn dunelli. Mae'r llong yn gwegio fel meddwyn, nes ei gwneud yn a'mhosib' cerdded yn gywir, bwyta'n weddus, nac ysgrifenu'n daclus. Mae'r cadben yn bryderus rhag y bydd yn rhaid i'r llong aros o'r tu allan i'r porthladd, a'i thrwyn i'r gwynt oherwydd y 'storm. Dipyn yn beryg' yw myn'd i mewn i ambell i borthladd ar dywydd garw. Mae porthladd Alecsandria felly, am fod ei ene mor gul. Ar ol d'od i ymyl y làn mor ddidrafferth, mae'n anodd i'r bechgyn gadw ffrwyn yn eu gene wrth wel'd y drafferth wedi eu gorddiwes yn y diwedd. Nid oes genyf ond gobeithio y tawela'r gwynt erbyn y bore', ac y cawn fynediad cysurus i'r hafan cyn nos yfory. Cyflwynaf fy hun, a'r llong a'i llwyth, i ofal yr Hwn y ceisiaf yn anheilwng ei was'naethu.

DYDD IAU, Y 7FED.—Y gwynt wedi gostegu,