PENOD X.
❋
GLANIO.
WEDI pythefnos o ymlwybro ar hyd wyneb y dyfnder, a "Dafydd Jones" yn "byhafio" fel gŵr bonheddig—yr un fath a phe gwydde fod iddo gâr o'r un enw ar fwrdd y llong—des i olwg tir yr Aifft pan o'wn bron yn ei ymyl. Y rheswm am hyny yw, fod y tir yn fflat fel eich llaw, heb iddo na mynydd, na bryn, na bryncyn, na chodiad cyment a thwmpath gwahadden yn dir cefen i'w farcio allan o'r pellder. Pan ddaeth y llygad noeth yn alluog i'w wahaniaethu, ymddangose fel llinell lwyd wedi ei thynu gan bwyntil o blwm, ac yn tori rhwng dw'r ac awyr. Ond dyna! cyn imi braidd gael amser i roi 'nghap yn deidi ar fy mhen, ce's arwyddion y'nes ataf fod tir gerllaw.
O amgylch ogylch y llestr yr oedd bade, fychen a mawrion, yn llawn o fode ar lun dynion—rhai yn rhwyfo, erill yn eistedd a'u dwylo 'mhleth, ac erill drachefn yn sefyll ar eu traed mor ddidaro a phe baent ar y làn. Y peilot oedd un, a'i neges ef oedd ein cyfarwyddo i mewn i'r porthladd. Un o swyddogion y dollfa