Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y llall, yn d'od i archwilio'r papyre, y'nghyda chargo unrhyw deithiwr fel fy hunan a all'sai fod ar y bwrdd. Yn awr y gweles y fantes o fod ar enw un o swyddogion y llong, hyd y'nod pytae heb fod ond gwerth swllt y mis. Oblegid wrth fy ngwel'd â phin ysgrifenu wrth fy nghlust, un arall rhwng fy nanedd, bwndel o bapyre yn fy llaw, fy nghap ar fy ngwegil, ac awdurdod diapêl yn argraffedig uwchben fy llyged, cafodd f'eiddo i lonydd, a'u perchenog y fath arwyddion o barch, nes gwneud iddo dybied am foment ei fod yn perthyn i warchodlu Arglwydd Cromer.

Dyma'r meddyg yn d'od i wel'd fod pawb yn iach yn ein plith. Yr oedd y ffaith fy mod wedi arwyddo'r erthygle fel talydd yn fy nïogelu rhag ymosodiade hwn eto. Ac mi dd'wedaf wrthych pa'm. Pe daethe i wybod taw fel dyn claf yn chwilio am iechyd yr es allan, deg i un na f'ase'n gwneud y ffwdan creulona', yn gwarafun i'r llong fyn'd i'r porthladd nes y ceid ardystiad o'r ochr hyn i sicrhau nad o'wn wedi bod yn dyodde' oddiwrth glefyd heintus—hwyrach y gorfodid y llong i aros o'r tu allan am wythnos neu ragor, yr hyn fydde'n golygu coste o ganoedd o bune i'r perch'nogion. Ond megis y mae llawer ffordd i ladd ci heblaw ei grogi, felly y mae rhagor nag un ffordd i dd'od allan o honi heblaw drwy ddrws y ffrynt, a'r naill onested a'r llall.

Ha! dyma'r llythyr-gludydd, wirionedd i, yn