d'od a'r llythyre i'r bwrdd. Efe oedd yn cael y croeso mwya' o bawb. Mor dda oedd genyf fyn'd 'nol i Dreorci am bum' munud, a rhoi llam dros dair mil o filldiroedd o fôr i siarad â rhai oedd anwyl genyf. Nid yw fy "ngwir gymar" wedi f'anghofio, nac Eunice fy merch, fy unig blentyn, o'i hysgol yn Caint. Bendith arnynt! Erbyn imi dd'od i ben draw'r epistole, yr o'em wedi d'od i ben draw'r daith, a bwrw angor yn ymyl y cei. Y'mysg y dyrfa amryliw a wylie'n dyfodiad oddiar y cei, yr oedd nifer o blant o bum' mlwydd oed a than hyny, heb ddim o'u cwmpas i ddynodi eu rhyw, a chan ddued a'r eboni. Tra'r o'wn yn syllu arnynt gyda dyddordeb, diflanasant fel mwg, heb un ar ol; ac yn fy myw y medrwn ddyfalu pa beth a ddaethe o honynt. Ond pan drois fy llyged dros ymyl y llong yr ochr nesa' i'r môr, mi weles ddwsin o bene duon y'nofio fel cyrc hwnt ac yma, ac yn crio "Bacsheesh!" dros y lle. Mi dafles ddwy neu dair ceiniog i'w canol, ac i lawr a hwy ar eu hole fel pysgod. Buont cy'd yn d'od i'r wyneb drachefn, nes peri i mi ofni eu bod wedi glynu yn y mwd ar y gwaelod! Ond pan ddaethant, mi weles arwyddion yn union oedd yn d'we'yd fod yna ysgarmes ofnadwy wedi bod o'r golwg, a'r cwbl am dair ceiniog! Gwn am ddynion—heb sôn am blant—y'nes yma na'r Aifft, a ânt drwy ysgarmese a farciant eu cymeriade—heb sôn am eu cyrff—hyd y bedd, yn eu hawydd aniwall i gofleidio traed y duw Mammon.