Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i chwi, a chwi ddeuwch allan o honi'r un modd. Yn sydyn, mae'r wasgfa'n cilio; ac os ydych yn bryderus o gywreingar i wybod yr achos o'r waredigeth, byddwch ar eich gwyliadwrieth y tro nesa' y cewch eich hunen mewn sefyllfa debyg. Buan y gwelwch haner dwsin o heddgeidwed y'nghyrion y dyrfa, a buan y clywch sŵn eu pastyne'n dyfod i wrthdarawiad â nifer o bengloge 'styfnig ar eich cyfer. Rhydd hyn ollyngdod mawr cyn pen ychydig eiliade, a pharod fyddwch i ddiolch taw nid ar eich pen chwi y disgynodd y pastwn.

Soudanied yw'r heddgeidwed bron yn ddieithriad—brodorion y wlad sy'n gorwedd i'r de a'r de—orllewin o'r Aifft; a gwneir heddgeidwed o honynt ar gyfri' eu gwydnwch a'u 'stoicieth. "Gwŷr cedyrn" ydynt o ddifri'—tal, 'sgwyddog, brest—lydan, can ddued a'r t'w'llwch, a'r duwch hwnw'n dysgleirio fel grât y gegin ar fore' Sadwrn y'nhŷ'r wraig syber. Gwefuse tewion, yn ymestyn y'mlaen, ffroene llyden, yn ymestyn yn ol o glust i glust y'mron, a dwylo fel dwy balfes gwedder. Ar y pen yr oedd cap coch, hirgul, tebyg i lestr blod'yn wedi ei droi a'i wyneb yn isa', a thusw o'r un lliw yn rhedeg dros yr ymyl. Am y traed yr oedd esgidie o ledr, cryfion a thrwchus, yn dwyn tebygrwydd nid bychan i ddwy wagen gymedrol; a'r syndod i mi ydoedd, sut yr oedd y dynion yn gallu dygymod â'r fath garchar ar ol bod yn draednoethion erioed dros dywod yr