PENOD XI.
❋
MEWN DALFA.
I raid i chwi fod fawr o amser y'ngwlad
yr Aifft cyn y cewch eich taro gan amldra
ei thrigolion. Y maent fel locustied, nid
yn unig yn y trefi a'r dinasoedd, ond hefyd yn
y pentrefi a'r wlad oddiamgylch. D'wedir nad
yw nifer trigolion Alecsandria dros dri chan'
mil; ond wrth gerdded dros ei 'strydoedd,
hawdd fydde madde' i chwi pe haerech fod yno
filiwn. Mae culni'r 'strydoedd yn peri fod y
dre'n ymddangos yn llawnach nag ydyw mewn
gwirionedd. Gydag ychydig eithriade, ac heb
gyfri' y rhan hono lle mae Ewropied yn byw ac
yn dwyn y'mlaen eu trafnidieth, chwi ellwch
boeri o un ochr i'r llall yn y 'strydoedd brodorol,
a hyny heb aflonyddu ond y nesa' peth i
ddim ar gyhyre eich gwyneb. Y canlyniad
yw, fod y dynion yn 'sgwyddo'u gilydd fel
mewn ffair. Weithie, chwi gewch eich hunen
y'nghanol y dyrfa ryfedda' heb fedru symud
cam i'r dde' na'r aswy, y'mlaen nac yn ol, mor
ddigymorth ag aderyn mewn rhwyd. Chwi
aethoch i'r sefyllfa boenus yna'n ddiarwybod