Gwirwyd y dudalen hon
dynion fu'n gaethion ynddi bum' mil o flynydde'n ol. A dyma'r wlad, mi greda', a ddaw eto'n ail i Eden mewn prydferthwch, i ddyffryn yr Iorddonen mewn ffrwythlonrwydd, i Bryden Fawr mewn gwareiddiad, ac i Walia Wen mewn crefyddolder, y'mhen dwy neu dair o genedlaethe.
Yr o'wn wedi myn'd i freuddwydio ar ddihun fel hyn, y gwaetha' o bob breuddwydio, a llais y cadben ddaeth a mi'n ol at sylwedde bywyd:—
"Come away, sir, or they will think you mad!"
A phan edryches, dyna lle'r oedd tẁr o fadwyr
cymysgliw o'm cwmpas yn syllu arnaf fel
pe bai dau gorn ar fy mhen. Mi ge's ragor
na dau ar fy nhraed cyn dychwelyd; ond ni
fu brys mawr arnaf wed'yn i freuddwydio ar
ganol y 'stryd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/04/I%27r_Aifft_ac_yn_Ol_%28page_71_crop%29.jpg/200px-I%27r_Aifft_ac_yn_Ol_%28page_71_crop%29.jpg)