Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddianwyd fi gan deimlad go ddyeithr. Dyma'r wlad y mae ei hanes y'myn'd yn ol i fabandod y byd, a'i gwareiddiad yn berffeth "cyn bod Abraham." Dyma'r wlad lle magwyd Moses bach, yr addysgwyd ef yn holl ddoethineb yr Aifftied nes y daeth yn Foses mawr, ac y dysgyblwyd ef i gyfrinion Duw'r Hebrëwyr nes iddo fyn'd yn Foses mwy. Dyma'r wlad lle bu'r etholedig genedl yn codi temle a phyramidie oesol y Pharöed, yn gweithio am y rhan fwya' o bedwar cant a haner o flynydde â phriddfeini heb wellt iddynt, ac yn cynyddu mewn rhifedi a nerth er gwaetha'r caledi a ro'id arnynt i'w cadw i lawr. Dyma wlad y Nile, dyfroedd yr hon a dröwyd yn waed gan Dduw i ddïal gwaed ei bobl, ar fynwes yr hon y gosodwyd gwaredwr cynta' Israel i orwedd dan gysgod yr hesg a'r prysglwyni, a'r hon a addolid gynt, ac a addolir eto, gan filiyne o breswylwyr ei glenydd. Dyma'r wlad lle bu Duw (ys d'wedai'r anfarwol Dewi Ogwen), yn agor dwylo Pharo' bob yn fys i ollwng y genedl i ffwrdd, lle bu rhan o "lu mawr" yr Arglwydd—y llau, y llyffent, a'r locustied—yn cyflawni eu hymdeth ddinystriol wrth orchymyn eu llywydd, a lle bu angeu'n cynal ei loddest y'mhob teulu'r un pryd trwy'r wlad i gyd ond Gosen. Ac os cywir y casgliad taw'r Saeson yw'r deg llwyth sydd ar wasgar, ac a gollwyd y'mysg y cenhedloedd, dyma'r wlad sy'n cael ei llywodraethu heddyw gan ddisgynyddion y