Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mantelli hirllaes dros y corff hyd at y traed gan y mwyafrif o'r bobl, o bob lliw yn y byd; ac am y traed, weithie sandale, ond yn amlach hebddynt. Rhwbir rhyw fath o sylwedd melyn ar wadne'r traed i'w caledu rhag y gwres, a defnyddia'r merched a'r gwragedd yr un 'stwff at ewinedd eu dwylo—i'w caledu, medd rhai, i'w prydferthu, medd erill. Fy marn i oedd taw prin oedd y prydferthwch; ond dyna, 'does dim cyfri' i fod am chwaeth. Bid fyno, mae blaenion bysedd y boneddigese'n ymddangos yr un fath yn union a phe baent yn bwyta mêl â hwynt drwy gydol y dydd.

Ryw ddiwrnod, mi ge's gader i eistedd arni ar ben drws un o swyddfeydd llonge Alecsandria, fel y gall'swn wylied y "llïaws cymysg" a elent heibio. Bum yno awr: ac i mi, yr oedd yn un o'r orie mwya' difyr ac adeiladol a dreulies yn yr holl wlad.

Dyma beneth rhyw lwyth Arabedd yn pasio, naill ai mewn dwfn fyfyrdod, a'i ben ar ei frest, neu mewn hwyl herfeiddiol, a'i drwyn yn yr awyr. Fel rheol, clobyn o ddyn tal, cyfartal, prydweddol, lluniedd, ystwyth, a chryf yw'r "shêch," neu'r peneth; ei groen yn bygddu, ei drwyn yn hir a syth, ei lyged yn fychen, duon, ac aflonydd, fel pe baent yn chwilio am elyn ar bob llaw, ei wefuse'n feinion, ei ffroene'n deneuon, ei farf yn dywyll a chwta, a'i ben yn hirgul. Crachboera wrth basio pob Ewropiad, a chwi ellwch ei glywed yn murmur melldithion ar ei ben wedi iddo fyn'd heibio. Pe cae ef a'i