Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wehelyth eu hewyllys, 'sgubid ymeth bob ci o Gristion allan o'r terfyne cyn pen fawr amser, ac allan o'r byd gynted a hyny. Dyna i chwi deip o'r gwir Arabiad,—cydnerth, cyfrwys, creulon, coelgrefyddol.

Dyma Negröed o'r canolbarth, a mwy o'r anifel yn perthyn iddynt na dim arall: eu pene'n fawr a chrynion, eu pengloge'n gelyd a gwlanog fel gwlan y ddafad ddu, eu crwyn yn ddu a seimlyd, eu trwyne'n fflat, eu ffroene'n llyden, eu gwefuse'n dewion, a'u danedd fel ifori. Plant y cyhydedd a'r anialwch ydynt, a phrin y cânt eu hanadl y'nghanol y 'strydoedd culion.

Dyma i chwi Dwrc a'i wyneb difynegiant—

Ac ar ei ol Bersiad yn ei garpie—

Ac wrth ei sodle ynte un o breswylwyr Ceylon a hireth-Cymro-am-ei-wlad yn ei lyged—

A dacw Chinëad a'i gynffonbleth—

A'r ochr arall i'r 'stryd ŵr o Japan a'i lyged bychen hirgrwn, a'i aelie ymofyngar—

A dyma Roegwr llyswenog—

A Sais o filwr yn ei gôt goch yn ei ddilyn—

Ac un o blant Abram yn plygu dan bwyse'r groes ro'ed ar gefn ei genedl—

A morwr o Ynys Pryden yn cerdded yn 'sgwarog ar ei ol—

—Hach! beth yw hwn sy'n moes-ymgrymu o fy mlaen, ac o ba le y daeth? Edrycha fel tẁr o ddillad budron parod i'w golchi, neu dẁr o garpie parod i'w llosgi. Dyma law a braich yn ymestyn dan y carpie tuag ataf, ac O! nid ydynt ond croen ac esgyrn ar y gore'.