Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhytha gwyneb 'sgerbydol arnaf odditan benguwch ffïedd, a llosga dwy lamp loew y'nhylle'r llyged. Prin y mae arnaf ei ofn, a phrinach y mae arnaf ei chwant. Dealles yn fuan taw un o fegeried y wlad ydoedd, yn ei dawch a'i duchan; a haws oedd i Paul ysgwyd y wiber oddiwrth ei law, nag i mi gael gwared o'r aflendid hwn. Dosbarth sy'n nodweddiadol iawn o'r Dwyren yw ei fegeried, y rhai sy'n boen ac yn bla i'r ymwelwyr. Glynant wrthynt fel gelod. I geisio rhoi cyfeiriad arall i'w gamre, mi ro'is iddo geiniog; ond yn lle hel ei bac at ei gilydd a myn'd i'w ffordd, dal i estyn ei law wnele'r hen bechadur, gan furmur rhwng ei ddanedd, a gofyn am ragor, fel Oliver Twist. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny taw aderyn hawdd ei blyfio o'wn i, ac nid o'wn yn chwenych ei ewinedd fwlturedd, rhag iddo fyn'd y'nghyd a'r gwaith yn llyth'renol. Ond mi ge's brawf buan fod Rhaglunieth yn gofalu am ei phlant. Dyma un o ddynion y swyddfa yn d'od allan ar y funud, pan oedd pethe'n dechre gwisgo gwedd go ddifrifol—ac ar ol deall sut oedd pethe'n sefyll, gỳr y cardotyn egr ac aflan ymeth gyda rhes o'r geirie mwya' cyflym eu dylanwad a glywes erioed. Ni f'asech byth yn credu gynted y casglodd y crëadur ei gwbl y'nghyd, ac y symudodd ei bres'noldeb afiach o'r gym'dogeth. Afred yw 'chwanegu iddo dywallt diluw o felldithion ar ben fy nghymwynaswr, ac anghofio dïolch i mine am y geiniog a gawse.