Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dacw ferched o Ynys Malta'n pasio, ac edrychent mor 'smala nes imi syllu ar eu hole'n hŵy nag y mae'n weddus i ddyn prïod wneud peth felly'n gyffredin. Yr o'ent o faintioli glew y'naturiol, ond yr oedd y fantell oedd am danynt yn gwneud iddynt ymddangos deirgwaith gyment. Nis gwn beth oedd deunydd y fantell, ond yr oedd yn sicr o fod o ddeunydd ysgafn iawn. Cychwyne am y pen fel cwcwll, yna tynid ef i mewn am y gwddf, nes yr oedd fel awyren fechan. Dyna balŵn No. 1. Wed'yn, fe rede i lawr hyd at y wâsg, tynid ef i mewn yno drachefn, nes cyfansoddi balŵn No. 2. No. 3 oedd y fwya', oblegid yr oedd hono'n rhedeg i lawr o'r wâsg i'r ffere. Wrth edrych arnynt o'r tu ol, yr oedd y tair awyren yn ymddangos mor ddoniol o ddigri', nes peri i mi dynu sylw a chilwg ambell i hen shêch a ele heibio, gan mor uchel y chwarddwn. Pan gydgerdde tair o honynt ochr yn ochr, cyrhaeddent o balmant i balmant; a'r peth a'm syne i oedd—os taw felly y gwisgent yn Ynys Malta, sut gebyst yr o'ent yn cael lle yno! Yr oedd modrwye ganddynt ar bob bys, hyd y'nod y bodfys, a breichlede ar arddwrn a migwrn—os nad yw sôn am freichled ar figwrn yn sawru braidd yn Wyddelig. Sut bynag, dyna fel 'roedd. A peth arall oedd yn ogleisiol: O dan yr ardderchawgrwydd i gyd, mewn sidan, a modrwye, a breichlede, yr oedd pob un o honynt yn droednoeth, heb gysgod hosan na sandal yn agos iddynt!