Neidio i'r cynnwys

Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XIII.

FFAWD A FFWDAN.

 AE Alecsandrida'n ddinas fawr, a'i phoblogeth dros dri chan' mil; ond ni weles ei haner. Mae ynddi rai 'strydoedd gwychion, a llu o adeilade fydde'n gredyd i Paris; ond culion a brwnt oedd y rhan fwya'. Wedi 'sgriwio drwy haner dwsin o'r rhai cula', a dyodde' dirdyniade heb fesur oherwydd a'mhwylledd y gyriedydd ac arafwch y gwŷr traed i symud oddiar y ffordd, ryw ddiwrnod ce's fy hun yn sydyn yn y Grand Square, a'r cadben hefo mi. Mae'r 'sgwâr hwn yn deilwng o unrhyw ddinas yn Ewrob. Dyma lle mae'r bancie, a'r gyfnewidfa, a'r prif fasnachdai, a'r swyddfeydd pena', a'r gwestai gwycha'. Y'nghanol y 'sgwâr y mae cofadel i Mahomet Ali (os wy'n cofio enw'r gŵr yn iawn), un o gynfawrion y tir, a gerddi, a sedde; tra y rhuthra olwynion masnach a phleser heibio o bob tu ac i bob cyfeiriad. Cedwir y 'sgwâr yn lân a chryno, ac y mae i'r llygad fel darn o Baradwys y'nghanol yr anialwch. Allan o hono y rheda'r brif heol a elwir ar enw Cherif Pasha, ac yma de's i