Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyffyrddiad â'r Cymro twym'galon a gwladgarol y soniaf am dano yn fy Rhagymadrodd. Oni b'ase am dano ef a'i frawd yn Cairo, mae'n anodd gwybod pa beth a ddaethe o honof yn y wlad bell hono. Er yn frodor o Sir Gynarfon, mae wedi enill ei blwy' yn yr Aifft er ys agos i ugen mlynedd; a'i frawd yr un modd. Nid oes ei barchusach y'mhlith dinaswyr Alecsandria. Masnachu y mae mewn nwydde Seisnig, a'i lwyddiant yn gyfiawn ac yn sicr. Y'mhlith ei wasanaethwyr yr oedd bachgen o Gymro o'r enw Huws o Abergele, a bachgen melynddu o'r enw Selim, y rhai fuont arweinwyr i mi o bryd i bryd. Preswylia'r boneddwr ychydig allan o'r ddinas, a che's y mwynhad o dreulio un prydnawn Sabbath o dan ei gronglwyd. Mewn "fflat" y trigai—y "fflat" ucha'n yr adeilad, yr hwn oedd yn sicrhau nen y tŷ at wasaneth y teulu. Yr oedd yn cynwys amryw 'stafelloedd, wedi eu dodrefnu'n bena'n ol y dull Dwyreiniol. Yr oedd yr holl ffenestri'n agored, a'r awel garedica'n tramwy drwy'r tŷ. Oddiar nen y tŷ ceid golwg braf ar y ddinas a'r wlad oddiamgylch; ac mewn congl gerllaw fe gane ceiliog yn Gymraeg, ac fe ymdreche iar neu ddwy glochdar yn yr un iaith. Boneddiges o Aberystwyth yw Mrs. Bryan, ac yr oedd ganddi, pan o'wn i yno, beder o'r merched bach tlysa' fu gan fam erioed. Gwyn oedd fy myd I'r prydnawn hwnw; bydded hwythe wynfydedig byth gan yr Arglwydd.