Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr wyf y'meddwl imi ddechre'r benod hon gyda chyfeiriad at y cadben a mine y'myn'd i mewn i'r 'sgwâr yn y cerbyd ar ryw ddiwrnod, ac yr wyf y'meddwl hefyd taw'r diwrnod y glanies oedd y diwrnod hwnw. Ar ol bod yn y llong am bythefnos, yr oedd fy aelode isa' dipyn yn chwareus, a chawn fy hun yn taro'n erbyn rhyw Ismaeliad o hyd. Anodd oedd peidio, gan mor aml y dynion a chul yr heolydd. Cymerasom y traed cyn cymeryd y cerbyd, ac wedi pasio drwy un o byrth y deyrnged, cawsom ein hunen y'nghanol y dyrfa. Croesasom y 'stryd—anturieth heb fod yn ddiberyg', o herwydd y cerbyde o bob math a chwim-basient i fyny ac i lawr. Heb fod nepell oddi-yma y mae palas y Khedive, brenin yr Aifft. Gorchuddia ddarn mawr o dir, ac nid oes dim yn brydferth ynddo. Llanastr o dŷ isel ydyw, yn wỳn i gyd drosto, yn ffenestri bob tamed o hono, ac yn gwynebu i'r môr. Yr oedd yn anodd dal i edrych arno, gan fel yr oedd yr haul yn t'w'nu ar ei furie gwynion a'i ffenestri gloewon. Nid yw y brenin yn byw yma'n barhaus. Yn Cairo y mae ei brif balas; ond pan ä'n rhy boeth i fyw yno'n gysurus, symuda i Alecsandria, i gael y fantes o awelon y môr. Dilynir ei esiampl gan y rhan fwya' o'r mawrion. Troisom ar y dde i heol gul, oedd yn llawn siope, a swydd-dai, a cherbyde, a phobl, a phlant. Yr oedd yr heol guled fel, pe safech ar ei chanol, y gallech ysgwyd dwylo'n dalïedd â'r