Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dynion oedd bob ochr i chwi. Yr oedd lled llaw o balmant yn rhedeg gyda'r ochre' ond camp i chwi fydde sefyll arno am ragor nag eiliad. A phan wthid chwi oddiarno gan rywun neu gilydd un foment, gyrid chwi'n ol y foment nesa' gan ryw Jehu a fygythie redeg drosoch. Yr oedd siope agored bob ochr i'r 'stryd, tebyg i stondine ffeirie Cymru, yn y rhai yr oedd pob math o nwydde, a dau neu dri o beryt yn crogi wrth eu cewyll oddiallan, ac yn 'sgrechen Arabeg i dynu sylw'r dyrfa. A mi wna lw nad oedd sylw neb yn fwy effro na f'eiddo i.

I b'le bynag y crwydrwn yn Alecsandria, deuwn yn ol, fel swllt drwg, i'r llong erbyn pob hwyr i gysgu. Weithie'n gynar, weithie'n ddiweddar: dibyne hyny ar hŷd y daith am y diwrnod, ac ar y cwmni, ac ar yr amgylchoedd y cawn fy hun ynddynt. Nid o'r un cyfeiriad y deuwn bob tro, ac nid ar fy nhraed y byddwn bob amser. Dïogelach oedd llogi cerbyd pan fydde wedi myn'd yn hwyr iawn, er hwyrach y byddem yn ddau a thri mewn nifer. Gwneud cilwg gâs ar dramorwr o'r Gorllewin mae dosbarth o'r Arabied, ac ysgyrnygant ddanedd arno pan dybiant y gallant wneud hyny a bod yn groeniach. Ymddygant felly liw dydd gole'; afred yw d'we'yd eu bod yn fwy haerllug liw nos pan gânt gyfle. Ni fum i heb gwmni'n cerdded i'r llong gyment ag unweth, ond bum yn un o ddau gryn ddwsin o weithie; ac er na ddigwyddodd i mi na niwed nac anffod yn y gwibdeithie