Gwirwyd y dudalen hon
yna dygir ei synwyre oddiarno gan y gwenwyn a ŷf,
a theflir ef allan i'r heol agos y'noethlymun. Dilynodd dau o'r giwed
hyn myfi ac un arall un noson am bellder ffordd, a chynyddent mewn
beiddgarwch er gwaetha'n protestiade. 'Doedd dim i wneud ond troi
arnynt. Prynaswn ffon o groen rhinoceros ychydig cyn hyny, a phan y
bygythies hwy â hono, ciliasant yn eu hole fel dau whelpyn wedi eu curo.
Da i mi na wyddent beth dd'wede fy nghalon!