Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XIV.

AR GRWYDR.

 CERBYD sy' mewn bri mawr yn yr Aifft yw yr un y gelwir arabeyah arno. Tebyga i hansom cab ein gwlad ni, ond ei fod yn ysgafnach na hwnw, a'r gyrwr o'ch blaen yn lle o'ch ol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich dwyn i gyffyrddiad a'ch gilydd yn y benod flaenorol. Mae canoedd o honynt i'w cael yn y prif drefi, a'r oll yn gyfrifol i'r Llywodreth. Maent wedi eu rhifo'n ofalus, a'r gyrwyr hefyd, yr un modd a nine. Eto, prin yr anturiech i ambell un o honynt, gan mor ddigymeriad yr ymddengys y cerbyd a'r cerbydwr. Ac os anturio wnewch, yr ydych yn y purdan c'yd ag y byddwch ynddo. Mi allwn dybied nad oes yno un ddeddf yn gwahardd ac yn cosbi gyru eithafol. Paradwys i "yrwyr ynfyd" o ddosbarth motorwyr a dwy-rodwyr y Gorllewin; ac ni fydde gan aml i amaethwr wrthwynebiad i ryddid gogoneddus o'r fath wrth ddychwelyd o'r dre' brydnawn Sadwrn. Y syndod i mi oedd, sut na fase llawer yn cael eu hanafu a'u lladd, yn enwedig o blant, gan mor llawn a