Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Eu gneud!" ebe mab Vulcan, heb wel'd yr ergyd; "bewt ti'n feddwl?"

"O, dim ond 'mod i'n gwel'd ffrâm ceffyl yn y fan yma, dyna i gyd!" ebe'r arabus; a ffwrdd ag e'. Gyda llaw, fe dd'wedwyd i mi fod y gôf hwnw heb wel'd yr ergyd byth! Un go dew ei fenydd yw ambell i ôf, ysyweth.

Sonie Kilsby am gi oedd mor dene nes ei bod yn angenrheidrwydd poenus arno i bwyso yn erbyn y wàl bob tro y cyfarthe!

Pan o'wn yn byw ar Gefncoedcymer, yr oedd yna bydler yn gweithio y'ngwaith y Gyfarthfa a chanddo gi can deneued a'r teneugi teneua' a welsoch mewn deng mlynedd. Llusge'r ci ar ol ei feistr i'r gwaith bob dydd. Gofynodd rhywun iddo—nid i'r ci, ond i'r pydler:

"B'le ce'st ti'r ci 'na, Ianto?"

"Dw i ddim wedi ga'l o yto," ebe Ianto.

"Sut hyny, bachan?"

"O, d'od ma's yn rhana' ma' fa," ebe'r pydler. "Pan ddaw a ma's i gyd, mi fydd yn gyfrol biwr ddigynyg!"

Perthyn i'r dosbarth yna o bedwar-carnolion ysgerbydol yr oedd y ceffyl a lusge'r cerbyd y bum i ynddo ar un achlysur yn Alecsandria. Tebyg i'r buchod a welse Pharo'n ei freuddwyd—drwg yr olwg a chul o gig. Yr oedd ffrewyll y gyrwr ar ei wàr a'i ochre'n ddibaid, a'i lais cryglyd yn gwaeddi ar y bobl am droi o'r neilldu'n ddïatal. Lletye 'nghalon yn fy ngwddf c'yd ag yr eisteddwn o'r tu ol iddo. Gwelwn