ddynion a merched yn cael eu gwasgar o'i flaen fel haid o ddefed; a chauwn fy llyged yn dỳn pan dybiwn fod cerbyd arall y'myn'd i'n rhedeg i lawr.
Yr unig dro y mwynhês i fy hun mewn arabeyah oedd pan aeth y cadben a mine am ddarn diwrnod allan o'r dre' i wel'd Colofn Pompi, y Bedde Tanddaearol, Gerddi'r Brenin, glane'r Nile, a Ramle, un o'r maesdrefi. Ac am y tro hwnw yr wyf y'myn'd i sôn yn awr.
Heblaw Jehu, llogasom ddyn o'r enw Moses yn arweinydd i ni; ac yr oedd yr enw a'r swydd yn taro eu gilydd i'r dim. Arabiad oedd Moses, ac arno ef yr oedd gofal y llong yn y nos c'yd ag yr oedd yn y doc. Edryche'n frwnt ddiraen wrth ei waith, ond y prydnawn hwn yr oedd wedi ymbincio'n anghyffredin; yr oedd ei wisg yn wèn fel eira, a'i ymddangosiad yn foneddigedd dros ben. Efe oedd yr unig Arabiad a glywes yn ceisio siarad Cymraeg; ond cystal i mi ei dd'we'yd a pheidio, nid oedd ei eirie'n yr hen iaith mor ddewisol ag y b'aswn yn caru eu bod. Yr oedd ganddo ddwy wraig a thri o blant. Bydde'r prif swyddog yn hoff o gellwer ag ef.
"P'sawl gwraig, Moses?"
"Dwy."
"P'sut wyt ti'n gallu rheoli dwy, a fine'n methu rheoli un?"
"Rhoi un i ofalu am y llall, a fine i ofalu am hono," ebe Moses.