Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Faint o blant sy' genti?"

"Tri."

"O, un-a-haner bob un, ai e? Oes cynffone gyda nhw, Moses?"

"Nag oes," ebe'r Arab yn syn.

"Siwr o fod—mwncis bach ydyn' nhw, Moses,—chwilia di am u cynffone nhw heno!" Ni ddangose Moses gysgod anfoddlonrwydd i'r cateceisio manwl hwn, ond fe ddangose'i ddanedd gwynion mewn llawn tymer dda.

Y lle cynta' y daethom iddo oedd Colofn Pompi a'r Bedde. Un darn anferth yw'r Golofn, sydd yn peri i chwi synu sut y gosodwyd hi ar ei phen erioed. Un o gadfridogion Rhufain oedd Pompi, yn byw oddeutu haner cant o flynydde cyn Crist. Ai ganddo ef ei hun, ynte gan rywun arall er cof am dano, y codwyd y golofn, 'does neb a ŵyr. Ond mae'n sicr o fod yn hen iawn, fel bron bobpeth sydd yn y wlad 'rwy'n traethu am dani.

Yn ymyl mae'r Catacombs, neu'r Bedde Tanddaearol. Yn gynta', eir i lawr ddeugen o risie'n yr awyr agored; yn ail, eir i fewn yn sydyn i fath o dwnel; ac yn drydydd, disgynir yn raddol wrth ole' canwylle nes y deuir i d'w'llwch y gellir ei deimlo. Tybir taw'r Crist'nogion Coptaidd cynta' gleddid yn y bedde hyn; ond mae'r cyrff oll wedi eu symud i'r Amgueddfa yn Alecsandria. Mi weles nifer o honynt yr un diwrnod wrth ddychwelyd. Y bedde'n unig oedd yma. Math o dylle hirgul