Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymanfa nesaf.[1] "Daeth (Mr. Roberts) o'r Gogledd i Gymanfa Merthyr, Gorphenaf 3ydd, 1866, pryd y cyflwynwyd tysteb iddo ar yr achlysur o'i ymadawiad oddiwrthym i'r Gogledd. Yr oedd y dysteb yn cynnwys anerchiad (pa un a welais wedi hyny yn hongian ar y pared yn ei dŷ yn Llanberis) a swm o arian, ond nid wyf yn cofio maint y swm, a thyna'r gwasanaeth olaf a gawsom ganddo fel ein Harweinydd yn Nghymanfa Gerddorol Gwent a Morganwg."[2] Heblaw yr anerchiadau gwerthfawr a roddai bob blwyddyn, ceid adroddiad hefyd o'r Gymanfa yn y Cerddor Cymreig a sylwadau arni, ac yr oedd ei gefnogaeth a'i gyfarwyddiadau ef yn fendith fawr i'r corau. Y mae y Gymanfa hon yn parhâu hyd heddyw, ac wedi gwneyd lles dirfawr i Gerddoriaeth o fewn ei chylch, os nad yn wir yn llawer ëangach.

Wedi ei ddyfodiad ef i Lanberis yn 1865, trwy ei ddylanwad a'i gefnogaeth ef, cychwynwyd cymanfa gyffelyb yn Arfon. Cynnaliwyd y Pwyllgor cyntaf yn Nghaernarfon, Mawrth 19eg, 1866, a'r Gymanfa gyntaf yn Nghastell Caernarfon, Awst 15fed yr un flwyddyn, pryd yr oedd 11 o gorau yn cynnwys dros 700 o gantorion yn cymeryd rhan ynddi, a chyngherdd yn yr hwyr, dan lywyddiaeth y Maer (Ll. Turner, Ysw.), ac y canodd Miss Watts ynddo. Cynnaliwyd ail gylchwyl lwyddiannus iawn yn yr un lle yn 1867, a'r drydedd yn Mhorthmadog yn 1868y bedwaredd yn Nghastell Caernarfon yn 1869. Adeg y bummed yn 1870, daeth yn wlaw, a chynnaliwyd hi yn nghapel Moriah; ac yn 1871 cynnaliwyd hi yn yr un man, ond teneu iawn oedd y cynnulliad. Symudwyd hi i Lanberis yn 1872, ac yno y bu farw. Ieuan Gwyllt oedd llywydd parhâus y Pwyllgor, a'r Arweinydd ymhob Cymanfa oddieithr 1869, pryd yr arweiniwyd gan y

  1. Cerddor Cymreig, Rhif I., tu dal 6.
  2. Llythyr Mr. D. Evans.