Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y tair gyntaf oedd Dr. Evan Davies, Normal College, Abertawe. Cynnaliwyd y bedwaredd gymanfa yn Rhymni, Gorphenaf 19eg, 1858. Yr oedd y Pwyllgor wedi penderfynu ar gael Ieuan Gwyllt, os oedd modd, i fod yn bresennol yn y Gymanfa, a darfu i ni lwyddo." "Yn Rhymni penodwyd ef yn arweinydd yr ol o'r darnau unol am y dydd, ac y mae'r anerchiadau cerddorol a roddodd yn ystod y dydd, wedi aros a dwyn ffrwyth ar ei ganfed yn meddyliau cannoedd o gantorion Gwent a Morganwg, a llanwodd y cylch o brif arweinydd y Gymanfa, gan roddi ei bresennoldeb ymhob un o honynt hyd yr adeg y symudodd i'r Gogledd."[1] "Nid ydym yn gwybod am un sefydliad o'i gyfryw yn Nghymru nac un wlad arall. (1861). Cynnelir cyfarfod blynyddol y Gymanfa hon yn y cyffredin yn niwedd yr haf, mewn lle a nodir yn flaenorol gan y Pwyllgor. Yno yr ymgasgla yr holl gorau (dirwestol) sydd yn cyfansoddi y Gymanfa, a chana pob côr, ar gylch, dan arweiniad ei lywydd ei hun. Gofelir hefyd am gael un o brif gerddorion y genedl yn bresennol, dan lywyddiaeth yr hwn y cenir amryw ddarnau gan yr holl gorau ynghyd. Y mae terfynau y Gymanfa yn cymeryd i fewn Aberdâr, Rhymni, Tredegar, Pontypridd, Cymer, Pentyrch a Chaerdydd; ac yn y cyffredin bydd y corau yn rhifo tua 500 o gantorion. Wrth weled y gallu hwn yn gynnulledig, a sylwi ar yr effeithiau a gynnyrchid pan y byddai y corau oll yn cydganu, penderfynodd y Pwyllgor fod y rhan gyntaf a'r drydedd o'r Messiah i gael eu dysgu y flwyddyn hon, a bod un o gyfarfodydd y Gymanfa i gael ei roddi at ei ganu—yr holl gorau gyda'u gilydd i ganu y choruses. Diau fod hwn yn gam yn yr iawn gyfeiriad, ac y gwelir ei ffrwyth mewn cerddoriaeth gorawl ardderchog yn y

  1. Llythyr Mr. D. Evans, Caerdydd.