Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Salm-don, E. R., Treithgan. Ond y mae doctoriaid yn gwahaniaethu yn fynych. Ymdrechai y ddau drosglwyddo i'r Cymry wybodaeth gerddorol o'r radd uchaf, ac y mae y llyfrau hyn yn werthfawr, ond y mae yn llawn rhy fuan eto i allu gwybod pa mor bell y mae cerddorion Cymru wedi gwneyd defnydd o honynt.

Telyn y Plant, Mai 1859 hyd Rhagfyr 1861. Dan olygiaeth y Parch. T. Levi ac Ieuan Gwyllt. Merthyr Rees Lewis.

Efe oedd yn darparu y tônau a ymddangosasent yn y rhifynau hyn, o ba rai y mae 28 o donau yn yr Hen Nodiant. Y maent oll yn brydferth a chwaethus, wedi eu dethol o Pax, Mozart, Hullah, P. P. Bliss, &c., ac y mac geiriau naw o honynt wedi eu cyfansoddi gan Ieuan Gwyllt, ac yma, ni a dybygem, yr ymddangosodd gyntaf y geiriau dirwestol rhagorol, "Awn, awn yn wrol lu," ar yr alaw "Codiad yr Hedydd." Y mae yma hefyd anthem syml a hawdd o'i eiddo ar y geiriau "Gadewch i blant bychain," cyfansoddedig yn 1854, pan yn dysgu y plant yn Liverpool, mae yn debyg. Efe hefyd er ys amryw flynyddoedd cyn diwedd ei oes oedd yn golygu y darnau cerddorol yn Nhrysorfa y Plant.

7. Arweinydd Corawl.

Dechreuodd arwain côr yn fore iawn, fel y crybwyllasom yn ei hanes, pan tua 15 oed neu ieuengach. Fel yr oedd yn dyfod i sylw fel beirniad cerddorol, yr oedd yn naturiol iddo gael ei wneyd yn arweinydd mewn Cymanfäoedd Cerddorol. Yr hynaf o'r rhai hyn, mae yn debyg, ydoedd "Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg." Amcan y Gymanfa hon ydoedd 1. "Cefnogi Dirwest. 2. Dyrchafu a choethi chwaeth gerddorol. 3. Ennill ein cantorion yn fwy at y canu cynnulleidfäol." "Yn Pontypridd y cynnaliwyd y Gymanfa gyntaf, Gorphenaf 1855, yr ail yn Aberdâr, Gorphenaf 1856; y drydedd yn Nowlais, Gorphenaf 1857. Y prif arweinydd