Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a dyfod yn gyfansoddwr; a chan fod yr engreifftiau i gyd wedi eu hargraffu yn y ddau nodiant, bydd yn gaffaeliad o'r fath fwyaf gwerthfawr i'r rhai sydd heb ymarfer â'r Nodiant Newydd. Hyderwn y bydd cannoedd o'n pobl ieuainc yn ymgymeryd âg ef, ac nid yn unig yn ei ddarllen, ond yn ei astudio yn fanwl, ac yn gweithio ei holl ymarferion gyda'r gofal mwyaf. Ymfoddlona llawer iawn, ac yn enwedig gyda cherddoriaeth, ar wybodaeth gyffredinol, fras, heb fyned drwy unrhyw beth yn fanwl ac yn drylwyr. Bydd astudio y llyfr hwn yn debyg iawn o wneyd cantorion trylwyr; a bydd hyny o fendith bwysig i gerddoriaeth yn ein gwlad." Dyma ganmoliaeth uchel, yn enwedig oddiwrtho ef, oedd mor ofalus am ddyweyd y gwir,—i lyfr Mr. Curwen. Am y llyfr arall, cyfieithiad ydyw o lyfr Mr. Curwen, How to observe Harmony, a chynnwysa arweiniad i mewn i astudiaeth cynghanedd,—felly hwn yw y cyntaf o ran trefn, a'r llall yn arwain ymhellach i mewn. Amcenid y rhai hyn i fod yn foddion i arwain cerddorion ieuainc ymlaen. Wedi cael y ddwy dystysgrif gyntaf, nid oedd gan y Cymro fantais i gynnyddu mewn gwybodaeth o egwyddorion cynghanedd a chyfansoddiad, ond yn awr cyflenwid y diffyg hwnw. Mae y cyfieithiad wrth gwrs yn gywir ac eglur, ac yn llawn cystal â'r gwreiddiol. Yr oedd Mr. E. Roberts ac yntau wedi cyttuno i'r naill edrych dros proofs y llall, a thystiai Mr. Roberts wrthym ei fod wedi ei daraw gan fanyldeb Ieuan Gwyllt, na chaffai y pethau lleiaf ddianc ei sylw. Cawn ychydig wahaniaeth barn ymhlith y ddau ŵr enwog am yr ymadroddion goreu i gyfieithu ambell i derm Seisonig, megys Forestroke, I. G., Blaenergyd, E. R., Cyndarawiad. Progression, I. G., Rhagfudiad, E. R., Symudiad. Accidentals, I. G., Dygwyddolion, E. R., Seiniau Damweiniol. Bridgetone, I. G., Pont—dôn, E. R., Trosglwyddsain. Chant, I. G.,