Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hwyrach mai yr ail ydoedd y cyntaf o ran amser, oblegid cawn nodiad yn Ngherddor y Tonic Sol-ffa am Medi 1871, fod y gwaith ar gael ei orphen, tra yr oedd y cyntaf yn cael ei gyfieithu tua'r un amser ag yr ydoedd Mr. E. Roberts, Liverpool, yn cyfieithu Y Gyfres Safonol, dyddiad Rhagymadrodd pa un ydyw Ebrill 1875. Er mwyn egluro amcan yr ail, ni a ddyfynwn o'r nodiad hwnw y canlyn. "Yr enw a roddir gan Mr. Curwen ar y gwaith yn gyflawn yn Saesoneg ydyw—The Common-Places of Music. Y mae yn cynnwys amryw Ranau, y rhai a ddynodir fel hyn: A, Traethodyn ar Seinyddiaeth Gerddorol (heb ddyfod o'r wasg)—B, C, D, E, Ymarferion Cyfosodiad ac Egluriadau. O'r rhai hyn y mae Ba C wedi dyfod allan. Y llythyrenau a ddynodant y Rhanau hyn yn Gymraeg ydyw A a B. Y mae D ac E heb eu gorphen.—F, G, H, Testynlyfr i Gynghanedd a Ffurfiau Cerddorol. Mae y rhai hyn allan yn Saesoneg; ond ni fwriedir eu cyhoeddi yn Gymraeg, gan nad yw y gerddoriaeth ond yr un peth. Dealla ein darllenwyr nad oes ond yr "Ymarferion Cyfosodiad" yn unig yn Gymraeg; hyny yw, y mae y cyfarwyddiadau a'r hyfforddiadau i gyd yn Gymraeg, ond nid yw y Gerddoriaeth—yr Ymarferion a'r Engreifftiau, i'w cael ond yn Saesoneg. Mae y rhanau diweddaf hyn yn cynnwys dros 500 o du dalenau o gerddoriaeth fel engreifftiau yn egluro y cyfarwyddiadau a'r sylwadau a wneir yn yr Ymarferion.. . Gwelir ar unwaith fod hwn nid yn unig y gwaith pwysicaf a ddygwyd allan mewn cysylltiad â'r Tonic Sol-ffa, ond y mae yn un o'r gweithiau cerddorol pwysicaf a ddygwyd allan erioed ar Gynghanedd a Chyfansoddiant yn yr iaith Saesoneg. Ac y mae, nid yn un o'r rhai pwysicaf, ond y pwysicaf oll, a ddygwyd allan ar y pynciau hyn erioed. yn yr iaith Gymraeg. Bydd yn drysor anmhrisiadwy i'r efrydydd cerddorol sydd yn ewyllysio deall cynghanedd