Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo, ac y mae yr ysbryd hwnw i'w weled a'i deimlo yn y llyfr hwn. Mae yn ddiammeu fod Mr. Roberts yn gweled yn yr Emynau hyn rywbeth yn cyfarfod â gwedd ar yr efengyl, ac ar brofiadau dynion yn ei gwyneb, nad oedd i'w gael yn hollol yn yr Hymnau Cymreig, ac y teimlai fod anghen am dano. Ond ni chyrhaeddodd yr amcan. Fel y crybwylla ef ei hun, cymerwyd hwynt fel caneuon i blant i'w rantio heb ystyriaeth, ac er fod rhai cynnulleidfäoedd yma ac acw wedi ceisio ymaflyd ynddynt o ddifrif, eto i raddau bychan iawn y gwnaed hyny, ac ni chafodd corff ein cynnulleidfäoedd ddim gafael gwirioneddol ar eu hysbryd Dichon nad oedd y diwygiad wedi gafael yn ddigon dwfn yn ein gwlad, ac yr oedd eisieu hefyd ryw Sankey, neu ddynion o gyffelyb allu ac ysbryd, i arwain ein cynnulleidfäoedd i'w trysorau. Hyd yn hyn y maent yn gorwedd yn glöedig, ond dichon fod "adgyfodiad gwell" i ddyfod iddynt yn y dyfodol, ac y bydd ein cenedl yn cael llwyr feddiannu y gymunrodd olaf hon o eiddo. Ieuan Gwyllt iddynt. Neu fe ddichon y cyfyd rhywun arall, i allu gweithio ar y wythen hon mewn ffordd arall, fel ag i allu cyrhaedd calon ac ysbryd crefyddol y genedl yn fwy llwyr drwyddi. Ond yn ddiddadl y mae yma gyfoeth i'w gael—ac y mae yn gorwedd yn y llyfr hwn drysorau o'r fath werthfawrocaf, ag yr oedd efe ei hun wedi cael meddiant o'u hysbryd, ond sydd hyd yn hyn yn guddiedig oddiwrth ein cynnulleidfäoedd.

6. Pa fodd i sylwi ar Gynghanedd, gydag ymarferion mewn Dadansoddiadau. Wedi eu hysgrifenu o'r newydd gan John Curwen (Pencerdd Dyrwent). Cyfieithiwyd i'r Gymraeg gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). London: Tonic Solfa Agency, 8 Warwick Lane, E. C. Pris 2 swllt.

Ymarferion Cyfosodiad mewn Cyfansoddiant Cerddorol Elfenol, gan John Curwen. Cyfieithiwyd gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). London: Tonic Solfa Agency. Rhan A., pris 6ch. Rhan B., pris swllt.