Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn Nghymru a'r diwygiad, yn foddion i danio ei ysbryd ef ei hun, ac i godi ynddo awydd am gyfranu rhywbeth i gynnorthwyo y symudiad hwn i gael argraff ar genedl y Cymry. Gyda chaniatâd Mr. Sankey, ymgymerodd â dwyn y tonau a genid ganddo mewn gwisg Gymreig. Daeth y rhan gyntaf allan yn lled fuan, 32pp., 3 ceiniog, ond cymerodd y rhanau eraill fwy o amser; ac erbyn Rhagfyr 15, 1876, yr oedd y chwe' rhan yn barod i ddyfod allan yn gyflawn, i gael eu cyhoeddi gyda'u gilydd. Yn ei ragymadrodd dywed, "Nid oes neb a deimla yn fwy na mi oddiwrth y diffygion lawer a ganfyddir yn y tu dalenau canlynol; ac eto y mae genyf le i gredu fod Duw wedi rhoddi ei fendith ar fy llafur hwn, er mor anmherffaith ydyw. Mae yn dda genyf weled arwyddion fod lle a natur y caniadau hyn yn cael eu deall yn well nag yr oeddynt. Yn lle bod y plant—a neb ond y plant—yn eu rantio gyda chyflymder afresymol, heb ddim geiriau ond sillau y Sol-ffa, y mae llaws y cynnulleidfäoedd bellach, mewn llawer o leoedd yn eu dysgu, ac yn eu canu gydag ystyriaeth a theimlad." Dengys y rhan gyntaf yn enwedig gryn dipyn o ôl brys, ac yn herwydd hyny anystwythder yn nghyfaddasiad y geiriau at y Gerddoriaeth. Dysgwylid llawer am gael "Iesu o Nazareth,"—ond nid hapus fu y cyfieithiad; yn wir, nid ydym eto wedi gweled un llwyddiannus gan neb. Ond er fod ychydig, mewn cymhariaeth, o esiamplau o fethiant, yn y rhan fwyaf o lawer y mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y mae y gyntaf yn y llyfr, "Daliwch Afael," yn nodedig o hapus; ac mewn llawer iawn o honynt y mae wedi gallu ymwthio i'r dôn a'r geiriau, nes y teimlir fod rhyw eneiniad prydferth arnynt yn y Gymraeg, yn llawn cymaint a'r Saesoneg; er esiampl, "Cofia Fi," "Y Meichiau," "Mae'r Iesu'n galw'n awr," "Fe ddarpar yr Iôr," &c.; pe nodem yr oll, elem dros ben pob terfynau. Yr oedd y cyfieithydd ei hun wedi ei lenwi yn hynod o ysbryd