Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifena y Golygydd yn ei ragymadrodd, "Yn plethu dwylaw ynghyd ac yn hepian, gallem dybied, y mae Cymru wedi bod yn ystod y flwyddyn. Hyny ydyw, mewn cymhariaeth." Canlyniad naturiol hyn oedd i gylchrediad Cerddor y Tonic Sol-ffa ddarfod, ac iddo farw. Ond nid cyn ei fod wedi cael rhoddi nerth a symbyliad i symudiad a wnaeth gantorion Cymru nid yn unig yn lleiswyr ond yn ddarllenwyr, fel nad oes odid neb yn awr yn anturio cyhoeddi na chân na chanig heb ofalu am ei chael yn y Tonic Sol-ffa mewn rhyw ffurf neu gilydd; ac o'r ddau, haws yw gwneyd heb yr Hen Nodiant nag heb y Tonic Sol-ffa. Ofnwn mai ychydig o lafur gydag egwyddorion sydd yn awr, ond y plant yn dysgu darllen y naill oddiwrth y llall; a diammeu fod eisieu rhyw ysgogiad newydd i ddysgu elfenau y wybodaeth hon. Da iawn, ar yr un pryd, fu cael y Cerddor yn ei ddydd, ac yr oedd purdeb ei chwaeth yn cynnyrchu chwaeth gyffelyb yn yr ieuenctyd; ac nis gellir prisio gwerth hynyma. A daeth llafur y Golygydd mewn cyfieithu a chyfansoddi barddoniaeth ganadwy i'r golwg yn fwy nag erioed, ac ar y cyfan gallwn ddyweyd fod y darnau yn y Cerddor wedi eu trefnu a'u cyfieithu yn dda ragorol. Y mae yma faes toreithiog i'w roi yn nwylaw ein plant a'n pobl ieuainc; a gallwn deimlo yn ddedwydd wrth wneyd hyny fod pob nodyn a llinell ynddo o duedd i'w dyrchafu a'u gwellhâu.

5. Swn y Juwbili: neu Ganiadau y Diwygiad, gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Wrexham: Cyhoeddedig gan Hughes and Son.

Sylwasom o'r blaen fod Mr. Roberts wedi bod yn llafurio cryn dipyn yn y maes Americanaidd yn Ngherddor y Tonic Sol—ffa, ond yr oedd y rhai hyny wedi eu darparu yn benaf i ddosbarthiadau y Tonic Sol-ffa. Bu ei ddyfodiad i gyffyrddiad â Mri. Moody a Sankey, a'r cynhyrfiad grymus oedd yn cydfyned â'u gweinidogaeth hwy, a'r cydymdeimlad