Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwaethus, fel na chafodd y dosbarth arall le i roddi troed i lawr. Fel yr oedd y symudiad yn ymledu a chryfhâu, daeth yn anghenrheidiol iddo gael cyfrwng cymundeb, a dyna yn benaf a gawn Cerddor y Tonic Sol-ffa, ond y mae yn y blynyddoedd olaf yn ymddyrchafu i ddechreu gafael yn yr egwyddorion. Mae y darnau cerddorol a ymddangosent ynddo hefyd yn fwy syml—yn gyfaddas i alluoedd y dosbarthiadau, a'r amrywiaeth oedd ynddynt. Ond yn hyn yr oedd y Golygydd mewn anhawsder, fel y clywsom ef yn tystio. Gwaherddid ef gan yr "awdurdodau" i gyhoeddi yn y Cerddor yn Gymraeg ddim oedd wedi ymddangos eisoes yn y Tonic Solfa Reporter, ac yr oedd erbyn hyny swm anferth o gerddoriaeth, a'r gerddoriaeth y buasai un yn fwyaf tueddol o droi ati, eisoes wedi ymddangos yn hwnw. Cafodd faes lled newydd, fodd bynag, mewn cerddoriaeth Americanaidd, ac yr oedd nifer o gyfansoddwyr ieuainc Cymreig yn dechreu cynnyddu i allu cyfansoddi darnau at wasanaeth y dosbarthiadau; ac o'r ddau ddosbarth yma, gan mwyaf, y mae cerddoriaeth y Cerddor wedi ei gyfansoddi. Ymysg y cyfansoddwyr ieuainc a ddygir i'r golwg, cawn enwau D. Jenkins, H. Davies, Garth, O. Owens, E. Cynffig Davies, Treforfab, Alaw Llyfnwy, Alaw Afan, a lliaws eraill, y rhai ydynt blant Cerddor y Tonic Sol-ffa. Ac yr oedd y golofn "At ein Gohebwyr," a "Chongl y Cyfansoddwyr leuainc," yn cael eu dwyn ymlaen yn fuddiol yn y Cerddor yma. Yn y darnau Americanaidd ceir rhanau syml, o waith Phillip Phillips ac eraill cyffelyb, yn fynych wedi eu cynghaneddu gan y Golygydd; a cheir pedwar dernyn bychan lled syml ond prydferth, gyda'r geiriau, ar gerddoriaeth o'i waith ef ei hun, sef "Iesu sy'n teyrnasu,' a'r "Gwynfydau," "Ar ben mae'r dydd," a "Paham ai myfi fydd y cyntaf?" Erbyn y blynyddoedd olaf o'r Cerddor hwn, yr oedd y llafur gyda'r dosbarthiadau Tonic Sol-ffa wedi myned heibio i raddau helaeth. Yn niwedd 1873