Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ol drwy Gymru oll, nid llai grymus fu y cynhyrfiad a roddodd ymddangosiad y Cerddor Cymreig mewn caniadaeth gyffredinol. Yr oedd hwn mewn rhyw ystyr yn ddyfnach, oblegid yr oedd yn gyffelyb i fel pe buasai cyfnewidiad yn cymeryd lle yn nghyfundrefn addysg y wlad, yr hwn fuasai yn effeithio ar holl gangenau gwybodaeth. Felly ceir Ieuan Gwyllt yma, yn ei ëangder, megys yn cyffwrdd ei law â gwahanol gangenau cerddoriaeth, a thrwy allu anorchfygol ei enaid nerthol, yn peri i holl wersyll cerddoriaeth Gymreig deimlo grym ei ddylanwad.

Nis gellir rhoddi yr un safle i Gerddor y Tonic Sol-ffa â'r Cerddor Cymreig. Wedi i'r Golygydd ddyfod i adnabod y gyfundrefn hono, efe a roddodd ei holl ddylanwad o'i phlaid, a chredai ynddi fel y moddion mwyaf effeithiol i ddysgu elfenau cerddoriaeth, yn enwedig i blant. Buan y teimlodd fod yn rhaid rhoddi lle i'r gyfundrefn hon yn y Cerddor, ond yr oedd yn anhawdd iawn, gan fod y terfynau mor gyfyng. Ceisiodd am rai blynyddoedd wneyd y goreu ellid, ond o'r diwedd anturiwyd cyhoeddi Cerddor i'r Tonic Sol-ffa ar ei ben ei hun. Ac yma eto y mae dylanwad anghyffredin y dyn a'r cerddor yn dyfod i'r golwg. Os mai Mr. E. Roberts, Liverpool, gafodd roddi y cychwyn i'r symudiad Tonic Solffa—yddol yn Nghymru, a bod y symudiad i ryw raddau yn gylymedig wrth y swyddfa yn Llundain, eto buasai wedi newynu oni buasai i Ieuan Gwyllt daenu ei aden drosto, a darparu ymborth iddo. Ymledodd y symudiad gyda chyflymdra anghyffredin tua'r blynyddoedd 1861—66, ac yr oedd yn anghenrheidiol cael cerddoriaeth i'r genedl newydd" oedd yn cael eu geni i'w chanu; ac yr oedd o bwys mawr o ba nodwedd y byddai y gerddoriaeth hono. Ceid arwyddion fod rhyw ddosbarth heb fod o'r chwaeth uchaf yn barod i ddyfod i'r maes; ond o drugaredd Rhagluniaeth, trwy gyfrwng y Cerddor Cymreig, cafodd Ieuan Gwyllt dywys y symudiad at y da, a'r pur, a'r