Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar 27 wedi eu trefnu gan y Golygydd—64 o ddarnau o waith awdwyr Cymreig—14 o Anthemau Cymreig—6 o Alawon, gan mwyaf yn Gymreig, a 4 Tôn Gynnulleidfäol. Heblaw hyn, y mae yn y Tonic Sol-ffa 19 o ddarnau clasurol (12 a'r geiriau gan y Gol.)—10 o waith awduron Cymreig, a 15 o Alawon,—oll ond un wedi eu trefnu gan y Golygydd, a geiriau amryw o honynt o'i waith ef. Dyma felly 185 o ddarnau cerddorol, a thua 100 o honynt o waith awdwyr Cymreig diweddar. Ymhlith y darnau clasurol, y mae nifer mawr o esiamplau o weithiau prif gerddorion y byd. O'r awdwyr Cymreig diweddar, cawn enwau O. Alaw, J. A. Lloyd, Cyndeyrn, Gwilym Gwent, Eos Llechid, E. Stephen, Tydfylyn, Eos Rhondda, a Brinley Richards,oeddynt fwy neu lai yn adnabyddus fel cerddorion o'r blaen; a D. Jones, D. Lewis, Ylltyr Eryri, J. Thomas, Blaenanerch, Alaw Ddu, Joseph Parry, Orwig Wyllt, R. Stephen, Isalaw, D. Emlyn Evans, W. H. Owen (mab O. Alaw), R. Mills, Wrexham, a J. Henry Roberts, oll, os nad ydym yn camgymeryd, a ddygwyd i sylw Cymru drwy y Cerddor Cymreig am y tro cyntaf. Y gwirionedd yw, nid gormod, ni a dybiem, yw dyweyd fod y Cerddor wedi creu dosbarth newydd o gyfansoddwyr a beirniaid cerddorol, y rhai y gall Cymru fod yn falch o honynt. A'r un modd y gellir dyweyd am y cyfansoddiadau; yr oedd y chwaeth uchel a phur oedd yn rhedeg drwyddynt oll yn foddion i greu cyfnod newydd yn nghaniadaeth Cymru. Trwy ddwyn cyfansoddiadau o'r natur yma mor gyfleus a chyrhaeddadwy i gorau ein gwlad, yn raddol fe ymlidiwyd ymaith y sothach oedd yn cael eu harfer yn flaenorol, ac fe roddodd corau Cymru gamrau breision ymlaen mewn ychydig amser, ac fe ddyrchafwyd eu chwaeth mor drwyadl, fel pe dygwyddai i unrhyw gôr yn awr ganu darnau gwaelion a diwerth, yr elai yn destun gwawd a syndod gan yr holl wlad. Os bu y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol yn foddion i greu cynhyrfiad mewn caniadaeth grefydd