Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diderfyn cerddoriaeth, a chyfyd awydd ynddo i wybod mwy. Ac y mae yn debyg fod y diffyg hwn yn anocheladwy mewn cylchgrawn o'r maint, ac yn dyfod allan yn fisol. Ond am ei werth, dyma dystiolaeth un o'i ohebwyr yn 1866, pan sonid am ei helaethu a chodi ei bris er cael mwy o le. "Yn wir, pe costiai 6c. y mis, gwyddom y byddai raid i lawer o gerddorion ieuainc ei gael. Y mae amryw bethau yn peri hyny. Yn un peth, y mae yn rhoddi mwy o eglurhâd ar bynciau tywyllaf cerddoriaeth nag un llyfr arall y gwyddom am dano mewn un o'r ddwy iaith. Hefyd y mae yn rhatach o lawer na dim a fedd y Saeson, ac felly yn llawer hawddach i blant gweithwyr ei gyrhaeddyd. Os cymer yr ychwanegiad le, bydd wedi hyny le i wers bob mis yn y Llawlyfr; ac felly, gallwn ddysgwyl cael eglurhâd ein hathraw ar y penau sydd eisoes wedi eu nodi, sef Melodedd, Cynghanedd, Cyfosodiant (Counterpoint), Ffurfiau Celfyddydol, Cerddoriaeth Leisiol ac Offerynol. Mae yr ieuenctyd am fyned ymlaen, ar ol unwaith gael gafael; ac nid oes achos i neb o honynt gywilyddio os hwn yw yr unig lyfr ar elfenau cerddoriaeth ag sydd yn eu meddiant; oblegid y mae yn cynnwys mwy o wybodaeth am gerddoriaeth a'i hegwyddorion nag a geir mewn un llyfr arall cyffelyb iddo. Yr ydym am dalu pob parch dyladwy i bawb; ond tua'r A B C y buasai llawer llanc o Gymro hyd y dydd hwn, oni buasai i'r Cerddor ei dywys yn ei flaen."[1] Rhoddid dernyn o gerddoriaeth hefyd ymhob rhifyn, oedd ynddo ei hun yn fwy o werth na phris y Cerddor, ac nad allesid ei gael yn un man arall am y pris hwnw. Cymerasom ychydig drafferth i gyfrif y darnau yn y Cerddor Cymreig, a chawsom yn yr Hen Nodiant 43 o ddarnau clasurol o waith rhai o'r prif gyfansoddwyr, o ba rai y mae y geiriau

  1. Cerddor Cymreig, Mai, 1866, tu dal. 39.