Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

soddwyr ieuainc, ac adolygiad ar eu cynnyrchion. Yn hon deuai i'r golwg ei allu neillduol ef i adnabod teilyngdod cyfansoddwyr ieuainc, i'w calonogi a'u cyfarwyddo, nes tyfu o honynt yn raddol i gymeryd eu lle fel cyfansoddwyr o alluoedd. Teimlai pob un ei fod yn ei gael ef yn gyfaill iddo, ac yn gyfarwyddwr, a thad, ac nid oes wybod nifer ei "blant" yn yr ystyr yma, y rhai a adnabyddai bob un yn dda, ac yr ennynai ynddynt yr awydd cryfaf am ragori. Gallem enwi heddyw, rai y gwelwyd eu henwau yn cychwyn gyda'r nodiadau "Bwrdd y Golygydd," ac yn ennill mwyfwy o gymeradwyaeth, nes y gwelid eu cynnyrchion yn dechreu cael eu cyhoeddi ar ddalenau y Cerddor, ac sydd i'w henwi erbyn hyn ymhlith prif gyfansoddwyr Cymru. Dyma, fe ddichon, ei ragoriaeth penaf ef fel Golygydd, gallu i fagu a meithrin yr ieuainc. Ceid hefyd yn yr adolygiadau ar lyfrau, feirniadaeth deg, gonest, a diduedd, a hollol chwaethus ar y llyfrau a gyhoeddid o bryd i bryd. Ac os dymunid cael crynhoad byr, ond cyflawn a rhagorol, o hanes cerddoriaeth a'r prif ddygwyddiadau yn y byd cerddorol, bob blwyddyn y bu y Cerddor fyw, ceir ef yn y Rhagymadrodd digymhar, a wneid ar ddiwedd pob blwyddyn i'w roddi ar ddechreu pob cyfrol. Fel hyn, pa ddefnyddiau rhagorach a ellid ddyfeisio? Mae yn wir fod y tair blynedd cyntaf yn rhagori, fel y dywedai Mr. Saunders, a'i fod yn y blynyddoedd diweddaf yn trin mwy ar symudiadau cerddorol y dydd; er hyny, erbyn cael yr un gyfrol ar ddeg hyn at eu gilydd (10 cyfrol ond 13 mlynedd, y mae 2 flynedd bob un yn y ddwy gyfrol gyntaf), y maent yn cynnwys crynodeb o wybodaeth gerddorol sydd yn anmhrisiadwy. Os oes diffyg i'w deimlo, dyma ydyw, fod y medi wedi dechreu mewn gormod o feusydd mor ëang, ac nad oes yr un o honynt wedi ei orphen. Ond rhydd hyn agoriad llygad i'r efrydydd ar bob un o honynt; daw i feddu rhyw syniad am ëangder