Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny nid aethpwyd ymhellach. Ar gynghanedd y mae yma 19 o erthyglau gwir feistrolgar, yn myned i mewn at athroniaeth ac egwyddorion y pwnc. Ar gyfansoddiant 4 erthygl, y Trawsgyweiriadau 10, ar Fynegiant 5, Caniadaeth Grefyddol 5, a Chaniadaeth Gyffredinol 5; ac y mae y rhai hyn yn ffrwyth astudiaeth fanwl a thrwyadl. Y flwyddyn gyntaf, ysgrifenodd Mr. Eleazar Roberts, Liverpool, 12 o erthyglau ar y Tonic Sol-ffa, y rhai a gyhoeddwyd wedi hyny dan y teitl Llawlyfr Caniadaeth, ac nid ymddangosodd dim eglurhâd gwell ar y gyfundrefn yn yr iaith Saesoneg. Ceir 3 erthygl ar Egwyddorion Cerddoriaeth, a 15 eraill fel Llawlyfr i Gerddoriaeth yn rhagorol iawn, a 12 o rai yn ymdrin ar Y Côr a'i Ddysgyblaeth. Un o'r pethau gwerthfawrocaf a mwyaf trylwyr ynddo ydoedd y 46 erthyglau "Geiriadur y Cerddor," sydd yn cyrhaedd o'r dechreu hyd y nawfed gyfrol, ond nid yw wedi myned ymhellach ymlaen ar y wyddor na'r gair "Caneuon." Mewn Bywgraffyddiaeth ceir 66 o erthyglau, o ba rai y cawn nodiadau helaeth ar Mozart a Handel, a chrybwylliadau byrion am liaws o rai eraill. Ac heblaw hyn ceir golwg gryno a chyflawn ar holl brif symudiadau cerddorol yr adeg, yn cynnwys adolygiad ar Eisteddfodau, Cylchwyliau Cerddorol, hanes Cymanfäoedd Cerddorol Gwent a Morganwg, Eryri ac Ardudwy, Llythyrau Arthur Llwyd, hanes Teithiau Cerddorol y Golygydd, ynghyd a'i nodiadau gwerthfawr ynddynt, llythyrau o Lundain, a chronicl o ddygwyddiadau cerddorol bob mis. Ymddangosai Beirniadaethau lawer iawn ynddo, ac yr oedd ei feirniadaethau ef yn llawn o addysg. Dyddorol ac addysgiadol iawn ydyw darllen "Ystafell yr Hen Alawon," a llawer o oleuni a gafwyd ynddi ar gwestiynau o darddiad ac awduriaeth alawon. Ond hwyrach mai y prif gymhellydd i lafur oedd "Bwrdd y Golygydd," a "Chongl yr Efrydydd Ieuanc," lle y rhoddai y Golygydd atebion i gwestiynau—cyfarwyddiadau a chynghorion—tasg i'r cyfan-