Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y diffyg cefnogaeth a roddid iddo gan y genedl ynglŷn â pharotoi defnyddiau uchelryw cyffelyb i'r rhai a nodweddai y tair blynedd cyntaf—rhaid addef eu bod o ran eu teilyngdod a'u gwerthfawredd yn deilwng o gael eu cymharu âg unrhyw ysgrifau ar gerddoriaeth a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Saesoneg. Yn wir, nid oedd y pryd hyny yr un cyhoeddiad misol yn yr iaith hono yn cynnwys sylwadau mor werthfawr ar gerddoriaeth yn gyffredinol ag a geid yn y Cerddor Cymreig. Ni wyddai ef (Mr. Saunders) am ddim byd ond y Musical Times, ac nid oedd y cyhoeddiad hwnw yn deilwng o gael ei gymharu â rhifynau y Cerddor Cymreig am y tair blynedd cyntaf o'i fodolaeth. Cwbl gredai ef ddarfod i'r nodiadau cerddorol a ysgrifenodd y diweddar Mr. Roberts fod yn foddion i godi safon ein cerddorion yn Nghymru. Os nad oedd efe yn camsynied, yr oedd o'i amgylch y diwrnod hwnw lawer o blant ac ŵyrion i'r diweddar Ieuan Gwyllt, ac nid oedd yn eu plith yr un cerddor na chyfaddefai mai Mr. Roberts fu yn foddion i ddwyn Cymru i'w safle gerddorol bresennol. Cychwynodd y Cerddor Cymreig, a pharhaodd i'w gyhoeddi am wyth mlynedd,[1] gan wario llawer o bunnoedd am ei gyhoeddi, trwy nad oedd y cylchrediad yn ddigon i gyfarfod y draul. Ysgrifenodd agos i'r oll o'r rhifynau ei hun, ac ni chafodd y nesaf peth i ddim am y llafur mawr a gyflawnodd yn yr ystyr yma." Rhydd cipolwg ar gynnwys cyfrolau y Cerddor ryw syniad i ni am ei werth. Cawn dair erthygl i ddechreu ar hanes cerddoriaeth, ac wyth eraill ar Gerddoriaeth Hebreaidd; ond nid yw y rhai hyn ond cychwyn y pwnc, er

  1. Gwelir iddo gael ei gyhoeddi am dair blynedd ar ddeg. Prin y gellir bod yn sicr, hwyrach, o'r cwbl a ddywed Mr. Saunders yma. Bu y symudiad i Wrexham yn ddiau yn ysgafnhâd mawr i'r Golygydd, ac ymdrechwyd i godi ei gylchrediad i bum' mil y pryd hwnw. Tybiwn mai eiddo Hughes a'i Fab ydoedd bellach, a'i fod yn talu, nid ar unwaith, ond trwy gadw stereotype y gerddoriaeth. Felly y dywedir fod y Musical Times; ni thalai ond fel y mae y gerddoriaeth mewn amser yn talu.