Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffurf helaethach yn y Cerddor Cymreig. Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gyntaf (4 blynedd), fel y gwelir, gan Ieuan Gwyllt ei hun yn Merthyr Tydfil, ac argreffid ef gan I. Clarke, Rhuthyn. Ond yr oedd hyn yn gryn anfantais. Nid yn unig y mae y drafferth i gyhoeddwr private yn anferth, ond hefyd, nis gall fod mor lwyddiannus am nad ydyw yn llinell gyffredin masnach. Oddieithr y buasai digon o waith i gyhoeddwr yn Nghymru heb wneyd dim arall, y mae yn well i'r cyhoeddwr a'r argraffydd yn y cyffredin fod yr un. Ond lled anhawdd, yn fynych, yw taraw ar argraffydd digon anturiaethus, a digon o ysbryd masnach i wthio peth fel hyn ymlaen. Ac mewn amgylchiad fel un y Cerddor, yr oedd y cylch yn fwy cyfyngedig, oblegid yr argreffid cerddoriaeth ynddo, ac nid pob un allasai wneyd hyny, yn enwedig yn ddestlus. Yr oedd y ddwy gyfrol gyntaf, fodd bynag, yn eithaf credit i wasg I. Clarke. Er hyny, ffortunus oedd y symudiad i Wrexham, oblegid yr oedd swyddfa Mri. Hughes a'i Fab yn meddu cysylltiadau ëang trwy Gymru oll, ac yn dwyn ymlaen fasnach led helaeth â bron bob cymydogaeth ynddi, fel nad oedd neb mewn cystal mantais i wneyd iddo dalu. Diammeu hefyd fod cychwyn yn y cyfeiriad cerddorol wedi bod o fantais hefyd i'r swyddfa ei hun, oblegid ymagorodd i ddyfod yn raddol yn fasnach ëang. Ond yr oedd y Cerddor Cymreig yn costio llafur dirfawr i'r Golygydd, oblegid cawn ef yn Mehefin, 1861, yn tystio ei fod yn ysgrifenu y cwbl o'r Cerddor ei hun.[1] Ac yr oedd ei gynnwys yn wirioneddol werthfawr.[2] "Os darllenir rhifynau y tair blynedd cyntaf—enwid y tair blynedd cyntaf am eu bod yn well na rhifynau y bedwaredd a'r bummed flwyddyn, nid oblegid unrhyw balldod ar ran Mr. Roberts ei hun, ond o herwydd

  1. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  2. Adroddiad o anerchiad y Parch. D. Saunders yn Nghaeathraw.