Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn seiliedig ar egwyddorion uchaf cerddoriaeth, yn debyg o aros yn hir yn safon i farnu tonau cynnulleidfäol wrtho. Ceir yma donau ar bob mesur y mae dim o werth wedi ei gyfansoddi arno, ac y mae nifer y tonau yn cyfateb yn lled agos i nifer yr emynau o werth sydd arnynt yn yr iaith. Gwaith mawr oes y Casglydd oedd ei wneyd, ac nid oes o fewn ei ddalenau, nodyn nac arwydd, na gair, nad yw yn dangos ôl myfyrdod ac ymchwiliad manwl. Costiodd lawer iddo ef, ond wedi ei gael y mae wedi dyfod yn eiddo y genedl, yn llyfr y gallwn heb betrusder ymffrostio ynddo, a'i osod ochr yn ochr âg unrhyw gasgliad gan unrhyw genedl dan y nefoedd. Nid pawb sydd yn gallu anrhegu eu gwlad a'u cenedl â gwaith fel hyn, ond gallodd y llafurus Ieuan Gwyllt wneyd hyny.

4. Y Cerddor Cymreig: Cylchgrawn misol at wasanaeth Cerddoriaeth ymysg cenedl y Cymry. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y genedl. Dan olygiad y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Y gyfrol gyntaf a'r ail—o Mawrth, 1861, hyd Rhagfyr, 1864,—46 o rifynau. Merthyr Tydfil: Cyhoeddwyd gan J. Roberts. Argraffwyd gan I. Clarke, Rhuthyn. Cuf. III—XI., 18651873. Rhif 47—154, Gwrecsam: Argraffedig a Chyhoeddedig gan Hughes a'i Fab.

Cerddor y Tonic Sol-ffa: Cylchgrawn misol, at wasanaeth dosbarthiadau y Tonic Sol-ffa. Dan olygiad y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt). Cyf. I—VI., 72 o rifynau, 1869—1874. Wrexham, Argraffedig a Chyhoeddedig gan Hughes & Son.

Gwelsom fod y syniad am gyhoeddiad misol cerddorol yn Gymraeg wedi ei gychwyn yn rhagorol, ond ar raddeg fechan, yn y Blodau Cerdd, a hwnw mae yn debyg oedd yr ymdrech cyntaf erioed o'r fath a wnaed yn Nghymru. Wedi gorfod rhoddi hwnw i fyny ar ol myned i Liverpool, ac er dysgwyl am gyfle i'w ail gychwyn, ni ddaeth yr adeg gyfleus hyd fis Mawrth, 1861, pryd y cychwynwyd un ar