Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wythnosau. Yr oedd y casgliad pan y daeth allan gyntaf yn cael ei gydnabod yn fuan fel y goreu, ac y mae yn aros hyd yn hyn heb gymhar iddo. Mae ynddo rai tonau, mae yn wir, lled anhawdd, ac wedi eu bwriadu i gynnulleidfäoedd lled ddiwylliedig, fel y dengys nodiad yn y rhaglith; ac y mae hyn yn ei wneyd yn fwnglawdd cyfoethog, y gall pob cynnulleidfa yn Nghymru gael digon o le i ymgyfoethogi drwyddo. Yn wir, y diffyg mawr ydyw, diffyg gwneyd defnydd priodol o hono, a threiddio i mewn i enaid ei gynnwys; y mae ein cynnulleidfaoedd yn ymfoddloni ar ryw nifer fechan fechan o honynt, a'r rhai hyny yn cael eu canu mewn dull marwaidd a difywyd nes sychu i fyny eu hysbryd. "Marwaidd" a ddywedasom, ïe, llawer mwy araf a marwaidd nag y dychymygodd y Casglydd am iddynt gael eu canu; ac yr ydym wedi sylw ar un ffaith nodedig sydd yn dangos can lleied o sylw sydd yn cael ei dalu i'r llyfr heblaw edrych yn unig ar y nodau. Y mae y Casglydd wedi cymeryd tri amser, sef y modd arafaf 2, y modd cyflymaf, a'r amser triphlyg, ac yn ddiddadl yr oedd yn bwriadu hyn i ddangos mewn modd cyffredinol gyflymder y tonau. Yn lle hyny, cenir Verona, Dusseldorf, Dismission, &c., mewn modd cyflym iawn; tonau bendigedig pe cenid hwynt yn araf a mawreddog. O'r tu arall, cenir Meirionydd, St. John, Talybont, ac yn enwedig yr hen Dorcas, yn araf a llusgedig, tra y maent wedi eu rhoddi i lawr yn y modd cyflymaf, ac felly yn ddiammeu y dylent fod. Nid ydym yn gwybod am ddim o fewn y llyfr, yn dangos mor drwyadl yr oedd y Casglydd wedi astudio ansawdd y tonau, a'r dull goreu i'w canu, na'r rhaniad hwn o ran yr amser, ac nid ydym yn gwybod am ddim sydd mor amlwg ac eto mor hollol guddiedig oddiwrth gantorion ein gwlad. Y mae y casgliad gwir ardderchog hwn, nid yn unig yn gofgolofn oesawl o lafur dirfawr y Casglydd ymroddgar, ond hefyd yn drysorfa genedlaethol, yn waith sydd, eisoes, ac am ei fod