Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ag y mae eu gogoniant heb gael ei weled eto. Nid yw ei alawon ef ei hun, mwy na'i gynghaneddion, yn cynnwys llawer o naturioldeb; yn hyn, fe ddichon, y mae eu prif ddiffyg, ond er hyny y maent yn gryfion a mawreddog, ac yn llawn o feddwl a theimlad. Y mae Moab ar emyn doddedig Ieuan Glan Geirionydd yn engraifft o lwyddiant cyflawn a pherffaith, lle yr oedd llawer wedi methu. Nid oes odid yn yr holl lyfr un dôn fwy llawn ac ardderchog na Liverpool. Mae Aberafon yn esiampl deg a hollol lwyddiannus o'r swynol a'r prydferth. Ac fel yr oedd efe yn ofalus gyda phob manylion, yr oedd ei ddewisiad o enwau ei donau, naill ai yn dal cysylltiad â'i fywyd ef ei hun, neu âg amgylchiadau y pennillion mwyaf neillduol arnynt. Yn y rhai cyntaf cawn Penllwyn, Melindwr, Rheidiol, Aberystwyth, Liverpool, Mount St., Everton, Tydfil, Padarn, ac fe allai Aberhonddu. Yn yr ail ddosbarth cawn Ymostyngiad, Esther, Dolwar, a Moab. I'r meddylgar y mae hyn yn awgrymiadol. Yn ddiweddar, yr oedd gweinidog lled ieuanc yn cadw society yn ei eglwys, a phryd nad oedd dim llawer neillduol gan neb, dechreuodd eu holi beth oedd yr emyn a ganwyd ar ddechreu y cyfarfod—atebwyd ef mai "Anturiaf ato yn hyderus, &c." Yna dechreuodd holi, pwy gyfansoddodd yr Emyn? A. Griffiths. Pwy oedd hono? Emynyddes ardderchog yn Sir Drefaldwyn yn y ganrif o'r blaen. Pa dôn a ganwyd ar yr Emyn? Esther. Paham y galwyd y dôn yn Esther? Am fod cyfeiriad yn y geiriau at Esther yn myned at Ahasferus. A oes rhyw neillduolrwydd yn perthyn i Esther ragor tonau yn gyffredin? Oes, y mae wedi ei chyfaddasu at bennillion A. Griffiths, y rhai ydynt yn fynych sill yn ormod. A oes tôn arall yn y llyfr felly? Oes, Dolwar. Paham y galwyd hi felly? Oddiwrth enw cartref awdures yr Emyn. Ac felly ymlaen, cafwyd society nodedig o flasus, trwy ddechreu yn y ffordd yma, a myned at ystyr y pennillion, society ag y bu son am dani am