Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyaf cyflawn o'r tonan goreu a fedd yr eglwys drwy y byd a ymddangosodd erioed yn Nghymru, ac hwyrach mewn un wlad arall. Mae y cynghaneddiad arnynt oll yn glasurol, yn gryf, a mawreddog — hwyrach i raddau yn lled stiff, ac yn gofyn tipyn o ymdrech i'w feistroli; ond er hyny y mae yn dda—yn nodedig felly. Y mae cynghaneddiad rhai o'r hen donau Cymreig yn neillduol o hapus. Mae rhai beirniaid yn gallu canfod gwallau wrth gwrs (a'r un modd y gallent yn y cyfansoddwyr goreu); ond nid gwallau o ddiofalwch ac amryfusedd ydynt, ond wedi eu defnyddio i gyrhaedd amcan neillduol, ac nis gall nemawr ddim fod yn well astudiaeth i gyfansoddwyr na chynghaneddiad y llyfr hwn, a'r defnydd a wneir o'r "troseddau." Ceir esiampl dda o'r defnydd o 5au dilynol ar y sill acenol yn y dôn St. Bride, rhif 124, a'r un peth ar y sill ddiacen yn y dôn Llantrisant, rhif 154. Gyda golwg ar yr Alawon Cymreig, cwynir gan rai ei fod wedi talfyru a thorfynyglu gormod arnynt, pan y mae wedi gadael allan ailadroddiadau a llithreni, a'i fod yn fynych wedi newid tonau. Yn y mater olaf hwn, yr oedd yn ddiddadl wedi gwneyd pob ymdrech i gael gafael arnynt yn y ffurf fwyaf gwreiddiol; am y lleill, mater o chwaeth ydoedd, yr ydoedd yn rhaid newid ychydig arnynt i ddyfod i fyny â'i safon ef, neu eu gadael allan, yr hyn ni fuasai yn ddymunol, ac nid ydym eto wedi gweled neb wedi dyrchafu gymaint yn uwch nag ef mewn chwaeth, fel ag i fod yn uwch awdurdod. Fel rheol, fel arall y mae y rhai mwyaf gwybodus, a mwyaf pur eu chwaeth, yw y rhai parotaf i edmygu yr hyn a wnaeth efe. Y mae hyn yn ddiddadl, fod y rhan fwyaf, os nad yr oll o'r Alawon Cymreig a geir yma, i'w cael mewn llawer ardderchocach diwyg, ac mewn agwedd fwy mawreddog, nag eu gwelwyd erioed o'r blaen. Am ei donau ef ei hun, y mae rhai o honynt yn hynod o dda, ac wedi cael derbyniad croesawgar, ac y mae eraill o honynt