Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd wedi cael allan erbyn 1876 awdwyr amryw o'r hen donau Cymreig; ac am yr hen dôn St. Mary, a godwyd yn 1859 o Playford (1671), erbyn 1876 yr oedd wedi cael o hyd iddi yn Psalmydd Edmund Prys (1620), yr hyn a roddai le cryf dros ddyweyd mai hen dôn Gymreig ydoedd; ac ychydig cyn ei farwolaeth ymddangosodd llythyr o'i eiddo yn y Musical Times yn dadleu mai hen dôn Gymreig ydoedd. Cynnwysa y llyfr oll 323 o donau (heb gyfrif y rhai sydd i lawr ddwywaith), ac o'r rhai hyn y mae o donau tramor (y mwyafrif yn Ellmynaidd), 142; o donau Seisonig, Ysgotaidd, ac Americanaidd, 61; o hen donau Cymreig, 76; o waith awduron Cymreig diweddar, 23 (o ba rai y mae 11 o waith Mr. J. A. Lloyd); ac o waith Ieuan Gwyllt ei hun, 21. Y mae corff mawr y tonau felly o blith y tonau a genid yn y Diwygiad Protestanaidd yn yr Almaen, yn Geneva, yn Ysgotland, a Lloegr. Yma yr oedd y casglydd yn cael y tonau oedd yn dyfod i fyny â'i syniad uchel ef fel yn cynnwys "symlrwydd, eangder, meddylddrych, urddas, a chrefyddoldeb neu ddefosiwn." Yr wrthddadl benaf, fe ddichon, yn erbyn hyn ydyw ei fod yn cynnwys gormod o'r elfen Allmaenaidd, ac nas gall hyny ymaflyd yn nghalon y Cymry, ac felly fod y canu yn myned yn sych a difywyd. Fe ddichon i'r casglydd ei hun deimlo ei fod, yn y llyfr fel yr oedd ar y cyntaf, wedi esgeuluso gormod ar yr elfen Gymreig, oblegid yn yr Ychwanegiad y mae wedi dwyn i mewn gryn lawer yn ychwaneg o honynt. Ar yr un pryd, tra yn addef yn rhwydd. fod yr hen donau Cymreig yn dḍa, ac na fynem eu colli, eto byddai cyfyngu yn gwbl i'r rhai hyn yn ffolineb o'r mwyaf. Yr un yw crefydd ymhob gwlad, ac y mae ei theimladau yn lled gyffelyb ymhob dyn o ba genedl bynag y byddo; ac y mae yr amrywiaeth sydd yn y casgliad hwn yn nodedig o fanteisiol i gyfarfod âg amrywiaeth y teimladau hyny. Ac y mae yn ddiddadl ei fod y casgliad