Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

unwaith ei fod yn dangos ôl llafur dirfawr yn ei barotöad, ac ymdrech egnïol i roddi i'r darllenydd wybodaeth gyflawn am darddiad ac amseriad pob tôn. Y mae wedi eu rhanu yn dri dosbarth, yn ol y corfanau; sef y corfan talgrwn neu ddyrchafedig (Iambic), y corfan Rywiog neu ddisgynedig (Trochaic), a'r corfan crych—ddisgynedig (Anapæstic); a dechreua ymhob un o'r dosbarthiadau hyn gyda'r pennillion sydd yn cynnwys y llinellau hwyaf, gan ddisgyn oddiyno hyd y byraf. Y mae y rhaniad hwn yn meddu rhyw synwyr ac athroniaeth, ac nid taflu pethau ar draws eu gilydd heb ystyr; ac ar bob mesur dechreua gyda'r tonau yn y cywair mwyaf, gan ddiweddu gyda'r rhai yn y cywair lleiaf. Yn y golofn gyntaf ceir rhif y dôn, yn yr ail ei henw, y drydedd ei chywair (mwyaf neu leiaf), yn y bedwaredd ei nodwedd—colofn a ddylai gael astudiaeth fanwl oddiar law pob dechreuwr canu yn enwedig; yna yr awdwr, mor bell ag y medrodd gael allan; ac yn olaf y cynghaneddwr, o'r rhai y mae y rhan fwyaf wedi eu haddrefnu, neu eu ffurfio o gwbl yn newydd, gan y Casglydd. Rhydd y daflen hon fantais i ni weled y ffynnonellau o ba rai y gwnaeth y casgliad. Ac wrth gymharu y bummed golofn yn yr argraffiad diweddaf (1876) â'r cyntaf (1859), yr ydym yn gweled fod cryn gyfnewidiad wedi bod arni, sydd yn dangos ymchwiliad helaeth i olrhain y tonau i'w tarddiad cyntaf; ac y mae yn debyg na wnaed un casgliad Cymreig erioed lle y ceir gwybodaeth mor drwyadl ar y mater hwn ag sydd i'w gael yma. Dengys dwy neu dair o esiamplau ei lafur yn hyn. Yn 1859 rhoddir Machynlleth a Warsaw fel alawon Seisonig, ond yn 1876 yr oedd wedi cael allan mai An. oedd yr awdwr. Yn 1859 ceir Lancaster fel alaw Seisonig, ond erbyn 1876 yr oedd wedi deall mai alaw Ellmynig ydoedd. Priodolir Matthias i Luther yn 1859, ond erbyn 1876 y mae wedi olrhain ymhellach, a chael mai hen alaw ydoedd, hynach na Luther. Yr