Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erioed i hwyl addoli wrth ganu bass. Lle na byddo y lleisiau ond wedi eu gosod i lawr er mwyn cynghanedd, y mae hyny yn lled anhawdd; ond pan y byddont yn cyfranogi o'r naws hwn, y mae yn bosibl addoli gyda hwynt yn gystal ag wrth ganu yr alaw. Ac mewn canlyniad teimlai Ieuan Gwyllt fod yn rhaid i'r dôn fod yn rhydd oddiwrth bob peth a dynai oddiwrth y naws hwn, megys y lleisiau yn ateb i'w gilydd, ac ailadroddiadau o'r geiriau ar ganol y meddwl. Diammeu ei fod wedi cymeryd safon uchel a chywir wrth ba un i farnu tonau, a'i fod wedi cael gafael ar yr egwyddorion oedd i lywodraethu ffurf y wisg, o'r hyn y mae y dôn yn gynnwysedig.

Bellach rhaid i ni ddyfod at y Llyfr. Y mae y Rhaglith, mae yn debyg, yn un o'r darnau mwyaf galluog ar ganiadaeth grefyddol a ymddangosodd erioed yn yr iaith Gymraeg. Sylwa, er fod ymdrechion lawer wedi cael eu gwneyd i ddiwygio ein caniadaeth grefyddol, ei fod eto yn parhâu yn ddiffygiol iawn; ac olrheinia y diffyg hwn i'w brif ffynnonell, sef diffyg ystyriaeth ar ran yr eglwysi, ac yn enwedig gweinidogion a swyddogion tŷ Dduw, o "bwysigrwydd a lle y rhan odidog hon o wasanaeth yr Arglwydd; a dengys y lle uchel a ddylai fod i ganiadaeth y cysegr, a'r budd a ddeilliai o'i gael yn ei le priodol. Rhydd eglurhâd ar ei amcan yn y Casgliad, sef cael casgliad o'r tonau goreu a fedd y byd, a'r rhwystrau a'i cyfarfyddodd yn y gwaith; anhawsder y gwaith o gynghaneddu tonau yn briodol, a'r meusydd y bu yn lloffa ynddynt. Wedi egluro trefn y llyfr, rhydd awgrymiadau pwysig i 1. Ein Gweinidogion a'n Pregethwyr. 2. Ein Diaconiaid Eglwysig. 3. Ein Blaenoriaid Canu. 4. Corff y Gynnulleidfa. Gallem feddwl mai un o'r pethau mwyaf effeithiol i godi dynion i synied yn deilwng am fawl cysegr Duw fuasai darllen ac astudio yn ofalus y Rhaglith hon. Y mae darllen y Mynegai mesurawl yn ein taro ar