Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn, fodd bynag, nad oedd y cerddorion hyn, er mor uchel, wedi astudio cerddoriaeth yn drwyadl. Yr oeddynt, yn ddiammeu, lawer uwchlaw eu hoes, ac felly yn gallu bod yn foddion i wneyd dirfawr les; ond nid oedd fodd i'w gwaith barhâu, o herwydd nad oedd wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion dyfnaf.[1] A dyma lle yr oedd cuddiad cryfder Ieuan Gwyllt,—yr oedd ynddo enaid cerddorol ac athronyddol, a thrwy lafur ac ymroddiad digymhar yr oedd wedi meistroli ei hegwyddorion yn llwyr; o ganlyniad, nis gallai lai na theimlo y diffygion oedd yn bod, a theimlo awydd cryf i'w wneyd i fyny; a ffrwyth ei lafur yw y Llyfr Tonau. Dadleuai efe fod tôn gynnulleidfäol i gynnwys rhywbeth llawer uwch na nodau wedi eu gosod gyda'u gilydd fel y gellid eu canu yn lled rwydd. Yr oedd yr alaw i fod, tra yn syml (simple, nid simpil, fel y clywsom ef yn dyweyd ar ei ddarlith), eto yn llawn o feddwl; a'r lleisiau eraill drachefn yn dwyn yr un ddelw (fel y gwahanol liwiau yn y darlun yn gwneyd i fyny un meddylddrych), fel ag i fod yn gyfrwng trosglwyddiad syniadau a theimladau uchaf ysbryd dyn mewn addoliad ger bron Duw. Ac felly yn ddiammeu y dylai fod. Y mae i ni dad yn y cnawd sydd wedi canu cryn lawer o donau crefyddol yn ei ddydd, ac er na fedrai egwyddorion cerddoriaeth, eto yr oedd ganddo ddull o'r eiddo ei hun i farnu tôn. Dywedai fod rhyw naws (gair yn tarddu, o bosibl, o'r gair Groeg νους—nous) grefyddol―rhywbeth oedd yn helpu i'r dyn addoli wrth ei chanu; tra yr oedd tôn wael yn amddifad o'r rhywbeth hwnw. Y naws hwn ydyw enaid a hanfod tôn gynnulleidfäol; a phan y byddo'r lleisiau yn cyfranogi o'r un naws, byddant yn foddion i ddyfnhâu y teimlad. Dywedai gweinidog amser yn ol nad aeth neb

  1. Y mae hyn wedi bod ac yn bod eto ar ffordd llwyddiant cerddoriaeth—dynion yn tybied eu bod yn gwybod y cwbl, pryd nad ydynt, mewn gwirionedd, wedi myned yn ddyfuach na'r cnewyllyn.