Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grefyddol; ac yr ydoedd eto heb ymburo digon oddiwrth hyny. Ychydig, mewn cymhariaeth, a geid o donau gwir dda a sylweddol. Yr oedd cryn nifer o donau cyffredin mewn arferiad, heb nemawr o amrywiaeth ynddynt, na nemawr o feddwl yn eu cyfansoddiad; y cwbl a ellid ddyweyd am danynt oedd eu bod yn rhwydd i'w canu. Ac yr oedd hefyd ddosbarth yn aros o rai tlodaidd a disylwedd, nad oedd dim ynddynt ond tuedd i gynhyrfu tipyn ar y traed, a rhyw wylltineb oedd fel math o stimulant yn cynhyrfu dychymyg afiachus. Ac yr oedd cynghaneddiad y tonau rywbeth yn debyg i'r tonau eu hunain. Bid sicr, yr oedd yn well o gryn dipyn na'r pethau anfedrus a gwallus oedd wedi bod unwaith mewn arferiad, eto yr oedd ymhell o gyrhaedd safon uchel. Nid oedd yn glir oddiwrth gynnwys llawer o wallau; a bai cymaint, a hyny oedd nad oedd meddwl yn cael ond ychydig o le yn y lleisiau. Mewn gair, wedi cael alaw, y pwnc oedd cael lleisiau arno fyddent yn canu yn rhwydd, ac yn seinio yn lled beraidd—nid fod y lleisiau yn gweithio allan y meddylddrych oedd yn yr alaw, ac yn ei gryfhâu. Cawn esiampl deg o hyn yn adolygiad Ieuan Gwyllt ar y Cerddor Eglwysig.[1] Tra y rhoddir i'r llyfr ganmoliaeth uchel, eto dywedir fod brychau pwysig yn ei anurddo. Yr oedd mydryddiaeth amryw o hen donau yn wallus, megys Abernant yn cael ei rhoddi yn yr amser triphlyg yn lle yr amser cyffredin; hefyd rhoddid y merched i ganu y cyfalaw (Tenore); ac wrth sylwi ar y cynghaneddiad, y mae yn dyweyd fod yn rhaid gadael mympwy a myned at y gyfraith; a cheid yn y dôn Priscilla 5au dilynol gymaint a phedair ar ddeg o weithiau! Buasai yn anghredadwy bron yn y dyddiau hyn i dybied fod yn bosibl i gerddorion mor enwog yn eu dydd syrthio i'r fath amryfuseddau. Dengys

  1. Yr Amserau, Mawrth 9, 1853.