Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan Ieuan Glan Geirionydd, a thua'r un adeg cyhoeddodd W. Owen, Drefnewydd, y Caniedydd Crefyddol; a'r flwyddyn hono y cyhoeddodd y Parch. J. Mills ei Ramadeg Cerddoriaeth. Yn 1840 ymddangosodd y Caniadau Sion gan Mr. Richard Mills, ac yr oedd yntau ei hun yn myned cryn lawer o amgylch i ddysgu cerddoriaeth a thonau cynnulleidfäol. Yr oedd hyn yn ddiwygiad mawr ar yr hyn a fu, a daeth gwybodaeth elfenol o egwyddorion cerddoriaeth yn llawer mwy cyffredin. Yn 1843 cyhoeddodd Mr. J. Ambrose Lloyd lyfr tonau, ac wedi hyny y Parch. J. Mills y Cerddor Eglwysig, yr hwn ar amryw ystyriaethau, fe ddichon, oedd yn welliant ar Ganiadau Sion, er na ddaeth i gymaint o fri nac i arferiad mor gyffredinol. Cyhoeddwyd hefyd amryw gasgliadau eraill, ond nad oedd ynddynt ddim neillduol yn dangos mynediad ymlaen.[1] Yn awr teimlai Mr. Roberts, tra yr oedd yr ymdrechion blaenorol wedi gwneyd lles er diwygio caniadaeth grefyddol, ac ymddangosiad rhai o honynt wedi nodi cyfnodau arbenig yn nghynnydd y gangen hon o wasanaeth y cysegr, fod eto bellach le i fyned ymlaen, ac eisieu casgliad rhagorach o gryn lawer nag oedd eisoes ar y maes. Yr oedd y cynnydd oedd wedi cymeryd lle mewn egwyddorion ac ymarferiad o gerddoriaeth gorawl yn gystal a chynnulleidfäol, wedi creu anghen am gyfnod newydd yn hyn; ac yr oedd llafur y rhai oedd wedi bod eisoes yn gweithio, yn gystal a'i ymdrechion ef ei hun yn y Blodau Cerdd, ei ddarlith, a'i feirniadaethau galluog, wedi parotoi y ffordd ato. Hwyrach y gellid gofyn, Beth oedd y prif ddiffygion oedd erbyn hyn yn y casgliadau blaenorol? Sylwasom o'r blaen fod dosbarth o donau gwylltion, gwaelion, a dienaid wedi cael lle mawr yn ein gwlad, ac wedi llygru caniadaeth

  1. Nid ydym wedi enwi yr holl gasgliadau, ond yn unig y prif rai, mor bell ag y mae yn ymddangos iddynt roddi rhyw ysgogiad i feddyliau dynion. Cyhoeddodd J. Roberts, Henllan, Caniadau y Cysegr yn 1839.