Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newydd hollol mewn caniadaeth yn Nghymru, yn gystal ag yn gynnorthwy i wneyd y Diwygiad Methodistaidd yn fwy grymus a pharhäol. Yr oedd Williams, yn wir, yn cyfansoddi ei emynau o bwrpas i'w canu; ac yr ydym yn gweled ei fod wrth eu hargraffu nid yn unig yn rhoddi nodwedd yr emyn, megys Galarus, Gorfoleddus, &c., ond hefyd yn nodi tôn briodol i'w chanu ar bob emyn. Yr oedd Mrs. Williams hefyd yn gantores dda, ac weithiau byddai yn myned gyda Williams ar ei daith, ac yn canu cryn lawer gydag ef yn y manau y llettŷent. Cawn fod y tonau a nodir uwch ben yr emynau wedi eu cymeryd gan mwyaf o gasgliad Rippon; ac wrth droi atynt yn y casgliad hwnw, yr ydym yn cael, mae yn debyg, y tonau ar ba rai y byddai Williams ei hun a'i wraig yn eu canu, ac y dysgid y bobl i'w canu. O hyny allan yr oedd y canu yn rhan bwysig o wasanaeth crefydd, ond nid oedd y tonau oll o nodwedd ragorol; a dygwyd ar ol hyny lifeiriant mawr o'r tonau oedd mewn bri ar y pryd ymhlith y Saeson—y tonau ysgafn, dienaid, a diathrylith a fuont yn gymaint o anmhariaeth i ganiadaeth grefyddol. Oddiar y cof a'r glust yn benaf y cenid hwy, ac nid oedd gwybodaeth o egwyddorion cerddoriaeth ond prin iawn yn y wlad; yn wir, nid yw yn ymddangos fod gan y Cymro uniaith y pryd hwnw ddim manteision i ddysgu. Y cyntaf, mae'n ymddangos, a anturiodd i'r maes hwn oedd Owen Williams o'r Tŷhir, Sir Fon, yr hwn a gyhoeddodd lyfr yn cynnwys cyfieithiad o draethawd Charles Dibdin, a Rheolau Cerddoriaeth Eglwysig; a chyhoeddodd ddau lyfr tonau—y cyntaf dan y teitl Cenaniah, y tonau wedi eu trefnu i ddau lais, yn 1816, a'r Brenhinol Ganiadau Sion yn 1817, yn cynnwys cryn lawer o donau Cymreig, yn gystal a rhai eraill. Ceir esiamplau. o'r rhai Cymreig yn yr Ychwanegiad: Capel Cynon, Y. 20; Môn, Y. 18; Llannor, 73; Llanrhaiadr, 73a; Trefdraeth, 74; ac Edeyrn, 77. Yn nesaf cawn gyhoeddiad y Seraph